Archif Newyddion

 

YMDRECH TÎM YN HONEYWELL YN TALU AR EI GANFED I APÊL CANSER GOGLEDD CYMRU

A TEAM EFFORT AT HONEYWELL REAPS REWARDS FOR THE NORTH WALES CANCER APPEALTracey Ham (Yn y Canol yn y Tu Blaen) gyda Lynn Twist (Chwith), Danielle Sheldon (Merch, ar y Chwith yn y Cefn) a'i chydweithwyr, Dave Beech, Jayne Oates, Helen Ross, Jackie Bryan, Anita Taylor a Tracy Alexandra

Penderfynodd Tracey Ham o'r Rhyl ei bod am wneud ei gorau glas i ddangos ei diolch gydag ychydig o waith codi arian rhagweithiol ar ôl iddi gael triniaeth a gofal mor wych yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, Ysbyty Glan, pan roddwyd gwybod iddi fod y canser wedi mynd o’r diwedd ym mis Chwefror 2018.

Cafodd Tracey ddiagnosis o ganser serfigol ym mis Awst 2017, a dechreuodd ar gwrs o driniaeth a oedd yn golygu ymweld yn rheolaidd â'r Ganolfan Trin Canser yn Ysbyty Glan Clwyd, a thriniaeth a sganiau arbenigol yn Ysbyty Maelor ac Ysbyty Clatterbridge.

Diolch byth, gyda chefnogaeth ei theulu, y staff clinigol a staff nyrsio a roddodd driniaeth iddi, a'i chyflogwr, Honeywell yn Llanelwy, mae hi yn awr yn ôl yn y gwaith, yn holliach, ac roedd yn awyddus i wneud rhywbeth ymarferol i ddweud diolch.

Trefnodd Tracey, gyda chymorth Danielle Sheldon, ei merch, sydd hefyd yn gweithio yn Honeywell, yn ogystal â chydweithwyr o safleoedd cynhyrchu Llanelwy a Runcorn, Raffl Fawreddog y Nadolig a gododd cyfanswm o £733.60.

Dywedodd Tracey, 'Roeddwn mor ddiolchgar am safon y gofal a'r tosturi a gefais drwy gydol fy nhriniaeth, y penderfynais i roi rhywbeth yn ôl i'r Ganolfan Trin Canser. Diolch i fy nghydweithwyr yn Honeywell, yn enwedig i Lynn Twist o HR a Keith Williams, Arweinydd Safle, a wnaeth nid yn unig fy nghefnogi drwy gydol fy nhriniaeth, ond fe wnaethant roi’r cyfle i mi gynnal fy ngwaith codi arian cyn y Nadolig, fe wnaethant helpu'r tîm i gyflawni cyfanswm mor wych.

Roedd yn amlwg i mi fod Apêl Canser Gogledd Cymru yn achos teilwng, ble mae staff a chleifion yn elwa'n uniongyrchol o'r gwaith y maent yn ei wneud sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, ac roeddwn yn falch i gyflwyno elw fy ngwaith codi arian i achos mor deilwng.'

Yn y llun isod mae rhai o'r tîm codi arian gyda Tracey, Danielle, ei merch, a Lynn Twist, Adran Adnoddau Dynol Honeywell.


Rhodd Bwrdd Crwn Dinbych

posterMae Bwrdd Crwn Dinbych yn ddiweddar wedi rhoi £1,000 o'r elw o'u Gŵyl Gwrw boblogaidd a gynhaliwyd ar 22 Medi 2018.

posterRydym yn ddiolchgar iawn i Bwyllgor a Chefnogwyr y Digwyddiad Blynyddol hwn am eu haelioni ac am ddewis Apêl Canser Gogledd Cymru i gael budd o'r rhodd wych hon. Am fwy o fanylion ar yr Ŵyl Gwrw cliciwch ar y linc hwn https://www.roundtable.co.uk/news/denbigh-charity-beer-festival-2018


Cael eich Noddi i Siafio Gwallt dros Ffrind o 45 mlynedd

Bu i Joy Groom, sy’n wreiddiol o Ffynnongroyw ond bellach yn byw yn Northampton, ddysgu yn ddiweddar bod ei ffrind gorau o 45 mlynedd wedi cael diagnosis o gancr y fron. Dywedodd Theresa wrthi fod ei thriniaeth cemotherapi am arwain at golli ei gwallt, felly penderfynodd Joy, gan eu bod nhw wedi rhannu gymaint o brofiadau arbennig gyda’i gilydd dros y blynyddoedd, pam ddim gwneud hyn gyda’i gilydd hefyd? Felly bu i Joy siafio ei gwallt ac mae hi’n rhoi ei gwallt i Ymddiriedolaeth y Tywysogesau Bach er mwyn iddyn nhw wneud wigiau i blant ond hefyd yn codi arian at Apêl Cancr Gogledd Cymru yr un pryd.

Dyma lun o Joy gyda Theresa yn eu dangos ‘cyn’ ac ‘ar ôl’. Wedi gosod targed o £350.00, mae Joy, pan gafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu, wedi codi dros £1,100 ar ei gwefan Virgin Money Giving.

I gyfrannu tuag at Apêl Cancr Gogledd Cymru ac i gefnogi Joy yn ei gweithred arbennig o anhunanoldeb ewch i  http://uk.virginmoneygiving.com/JoyGroom

Diolch i Joy am gefnogi’r Elusen a gobeithio bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl cyn i’r tywydd droi’n rhy oer!

posterposter


posterCodi Arian at Farathon 2018

Mae’r pedwar rhedwr wnaeth daclo’r Marathon eleni wedi mynd y tu hwnt i unrhyw dargedau blaenorol drwy godi swm enfawr o £20.381.11 wedi’i ychwanegu at arian NWCA.

Bu i’r pedwar rhedwr wneud yn arbennig o dda gan orffen y cwrs llethol 26 milltir mewn tywydd poeth tanbaid a bu eu hymdrechion codi arian yn gwbl arbennig.
Hawys Roberts - £6,689.74
Billie Jo Davies - £6,646.81
Andy Knapp - £5095.98
Natalie Maurice Evans - £1,848.58

Mae’r llun yn dangos y rhedwyr wrth y llinell derfyn a hoffem ni ddiolch i bob un ohonyn nhw am eu cyfraniad hynod werthfawr i Apêl Cancr Gogledd Cymru


Rali Traciau Targa Honda 116 Gogledd Cymru

Dechreuodd Rali Traciau Targa blynyddol y Clwb Ceir 116 yn lle Cartio Glan y Gors yng Ngherrigydrudion ar ddydd Sul y 29ain o Orffennaf 2018. Gyda chystadleuwyr o bob cwr o Brydain ac Iwerddon yn cymryd rhan, bu i 200 o Yrwyr a Chyd-yrwyr gofrestru am 6yb i ddechrau ar gyfres o brofion heriol ar draws Gogledd Cymru.

Apêl Cancr Gogledd Cymru ydy elusen enwebedig Clwb Ceir 116 a Raffl am le am ddim i’r digwyddiad blwyddyn nesaf er budd i’r Elusen oedd y cyfle cyntaf i’r 100 tîm a’u cefnogwyr gyfrannu tuag at yr achos.

Gyda dros 20 prawf a 150 o farsialiaid yn cefnogi’r digwyddiad roedd digon o bobl yn ôl yng Nghlan y Gors ar ddiwedd y dydd i weld y gyrwyr a’u casgliad arbennig o geir yn dychwelyd ar ôl diwrnod blinderus.

Bu i’r Clwb Ceir gyfrannu cyfanswm arbennig o £1,274.00 i’r Elusen ac mae ein diolchiadau yn mynd i Bwyllgor Trefnu Clwb Ceir 116 ac i holl gefnogwyr y digwyddiad wnaeth sicrhau’r cyfraniad arbennig hwn.

posterposterposter


Cinio’r Merched 2018 Brookhouse Mill Dinbychlogo

Mae hwn bellach yn ddigwyddiad blynyddol ac fe gafodd Cinio’r Merched ei gynnal eleni yn Brookhouse Mill, Dinbych ar ddydd Sadwrn y 18fed o Orffennaf 2018, oedd unwaith eto yn boblogaidd iawn gyda llawer o gefnogaeth at y digwyddiad hwn ‘y mae’n rhaid mynd iddo’.

Diolch yn fawr iawn i waith ac ymdrech caled Karen a John Hall a’u tîm yn Brookhouse Mill. Bu i 130 o westeion fwynhau Prosecco a Chanapés wrth gyrraedd ac yna pryd dau gwrs hynod flasus. Bu i fusnesau lleol roi cefnogaeth amhrisiadwy gyda stondinau a chyfrannu tuag at y Raffl a’r Ocsiwn, ac o ganlyniad i hynny, bu i’r digwyddiad godi swm arbennig o £3,000.00.

Aeth y gwesteion adref gyda chasgliad gwych o wobrau’r Raffl a’r Ocsiwn sydd wedi’u rhestru isod:

Raffl

Siop Siocled Dinbych Siocledi a phitsa siocled
Baroque, Dinbych Tocyn rhodd £50
Brookhouse Mill Tocyn rhodd am bryd o fwyd i 4 person
Homeward Bound Te prynhawn i 2
Meirion Davies, Dinbych Tocyn rhodd
Tweedmill Shopping Outlet Te prynhawn i 2
James Fearon Wines Magnwm o Brosecco
Baa Stool, Dinbych Clustog Croen Dafad
Terri Wilde Artist Paentiad o Goeden Ddrops
Stephs Beauty Lounge, Treffynnon Tocyn rhodd £30
Cwmni Gwallt Tommy's Tocyn rhodd a Thriniaeth
Tesco Rhuthun Hampr Cynnyrch Tesco Finest a Phrosecco Pinc
Pure Lovely Designs Arwydd Gwreiddiol ac Unigryw
Natures Treasures Potel o Brosecco a Gwin
Shlizzy Giniau Crefftwyr o Flas Gwahanol
Studio 13, Dinbych Cadwyn

Ocsiwn
Printiau wedi’u fframio o Ddaeargwn y Goror a Helgwn gan Elizabeth Halstead
Diwrnod pampro gan Gwmni Gwallt Tommy's
Sesiwn plymio ‘Try Dive’ gyda ffiniau a chamera dan ddŵr gan Gymdeithas Sgwba-blymio Prydain
Paentiad Gwreiddiol o Gnocellau Brith Mawr gan Terri Wilde

Diolch yn fawr iawn i’r holl noddwyr a gwesteion wnaeth gefnogi’r digwyddiad ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i ddigwyddiad hyd yn oed mwy yn 2019.

posterposterposter


Gêm Bêl-droed Elusennol Clwb Pêl-droed Dinbych

Cafodd y Gêm Bêl-droed Elusennol flynyddol Top Dre’ (Uptown) vs Gwaelod Dre’ (Downtown) ei chynnal yng Nghlwb Pêl-droed Dinbych ar ddydd Sul Gŵyl y Banc y 26ain o Awst. Er gwaethaf dechrau digalon o wlyb, roedd y timau yn barod amdani ar ôl sesiwn cynhesu egnïol iawn gan dîm Top Dre’ gyda’r gêm yn dechrau ar amser am 11yb.

Ar ôl eu perfformiad egnïol iawn wrth gynhesu aeth y tîm glas (Top Dre’) ar y blaen yn gynnar, ond y sgôr terfynol oedd 4-2 i dîm Gwaelod Dre’ gyda dathlu a chydymdeimlo i ddilyn mewn tafarn leol. Gyda chefnogaeth hynod hael y chwaraewyr, cefnogwyr ac aelodau’r cyhoedd, cafodd dros £1,200 ei godi tuag at yr Elusen.

Yn garedig iawn, bu i’r trefnwyr enwebu Apêl Cancr Gogledd Cymru i elwa o’r elw hwn ac o’r casgliad bwced llwyddiannus.

Mae ein diolchiadau mawr yn mynd i James Drury a gweddill y Pwyllgor Trefnu ac i Shaun Powell o Lock Stock am ei gymorth a’i gefnogaeth ar y diwrnod.

posterposter



Cyfieithiad yma yn fuan...

22/12/17 London Marathon 2018 Runners
The runners raising funds for the North Wales Cancer Appeal have now been chosen and they are busy training and collecting funds for their big day on 22nd April 2018.
See below each of the runners stories and the link to donate

andrew

Andrew Knapp
I'm raising money for the North Wales Cancer Appeal partly because I lost my dad to cancer when he was 59. He was a runner - he ran for Oxford University, and he was there in 1954 when Roger Bannister broke the 4 minute mile. Cancer affects all of us directly or indirectly at some time, so having the best possible facilities is vital for all of us - We all have friends and family we know affected by cancer so I hope you will help me to support NWCA.

Click here to donate for Andrew

Natalie

Natalie Morrice – Evans
Cancer affects so many lives and the work of the North Wales cancer center helps so many people. I am honored to run the race and raise money for them. Cancer does not discriminate and chooses its victims at random, I know many of my family members, friends and colleagues have been affected by this disease and have been helped along their journey by the North Wales Cancer Treatment Centre.
This year was my turn to be affected, not many of you will know as I have kept things very quiet, but now I feel it is my turn to raise awareness and in turn raise vital funds towards helping other people fight this disease. I have been lucky and with the help from the fantastic staff my cancer has been removed and treated with only a scar for a reminder.

Click here to donate for Natalie

Hawys

Hawys Roberts
After starting running early in 2017, and completing a 10k race, I got the running bug. I am 30 in July and thought it's now or never. I'm immensely proud to be running for the NWCA. I have many close friends and family who have lost loved ones to cancer, and will be thinking of all of them while running the 26.2 mile race in April, and during all the training. I would be so grateful if you could sponsor me to help me reach my target and raise as much money as possible for NWCA

Click here to donate for Hawys

Billie-Jo

Billie-Jo Davies
This April I will be running the London Marathon to raise funds for the North Wales Cancer Appeal and I for one am extremely excited as this is something I have always dreamt of doing from a young age. 'NWCA' is a charity which is very close to my heart as my family have lost many friends and relatives from this dreadful disease.
November 2016, I decided to run the Conwy half marathon in memory of my mum's best friend who sadly lost her fight with cancer early in May 2016. She was a very brave lady who battled hard but this terrible disease won.
This year I've been given the amazing opportunity to run for North Wales Cancer Appeal, I would be honoured if you could sponsor me to help me reach my target and raise as much money as I can for this great cause. Through Virgin Money Giving, donations will be quickly processed and passed onto the charity.
Virgin Money Giving is a not for profit organisation and will claim gift aid on a charity's behalf where the donor is eligible for this.
Thank you for all your support!
Diolch yn fawr iawn.
Billie-Jo

Click here to donate for Billie-Jo Davies



poster29/08/2017 - Cinio Marcî i’r Merched

Cynhaliwyd Cinio Marcî i’r Merched yn Brookhouse Mill, Dinbych ar 5 Awst gan godi dros £2,500 i Apêl Cancr Gogledd Cymru.

Hoffwn ddiolch o galon i Karen a John Hall am y marcî, y bwyd a’r adloniant gwych a’r holl noddwyr a phawb a gyfrannodd at y raffl a’r gwobrau ocsiwn am sicrhau llwyddiant y diwrnod. Dyma obeithio y bydd yn dod yn ddigwyddiad blynyddol!


29/08/2017 - Ffair Wledig Llanelwy

Diolch i ymdrech tîm gan Apêl Cancr Gogledd Cymru a chlwb 116 Car Club cafwyd presenoldeb gwych yn y Ffair Wledig ddiweddar yn Llanelwy.

Roedd gan 116 Car Club stondin wych yn arddangos gwahanol Geir Rali, hen a newydd. Roedd y Criw Casglu Arian yn bresennol unwaith eto hefyd i gasglu arian yn eu bwcedi, pob un â gwisg gwerth chweil i ddenu cymaint o sylw a phosibl. Penderfynodd Tigger gymryd rhan yn y gystadleuaeth tynnu rhaff - ac ennill wrth gwrs!

posterposterposter


notice10/04/2017 - Marathon Llundain 2017 – Mae staff penigamp Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gobeithio goresgyn yr her o gwblhau Marathon Llundain a chodi cymaint o arian a phosibl i Apêl Cancr Gogledd Cymru.
Mae’r merched medrus hyn, sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau yn y Bwrdd Iechyd ar draws Gogledd Cymru, wedi bod yn taro’r traciau dros y misoedd diwethaf i baratoi ar gyfer eu her fawr.
Gyda phob un yn rhedeg marathon Llundain am y tro cyntaf, daeth y pum seren ynghyd i rannu cyngor hyfforddi tu allan i Ganolfan Trin Canser Gogledd Cymru yr wythnos ddiwethaf (Yn y llun o’r chwith i’r dde Mandy Watkins, Carmel Barnett, Alice Roberts, Kirsty Thomson a Sally Jones)

Mae gan y ‘Pink Perils’ oll eu rhesymau eu hunain dros eisiau rhedeg y Marathon a chodi arian at yr Apêl, ond yr un peth sydd ganddynt yn gyffredin yw eu bod yn benderfynol o orffen a chodi cymaint o arian â phosibl.
Carmel Barnett yw Rheolwr Gwasanaethau Radiotherapi y Ganolfan Trin Canser a Kirsty Thomson yw Pennaeth Codi Arian Awyr Las. Mae Alice Roberts yn hyfforddi i fod yn Wyddonydd Clinigol mewn Awdioleg yn Wrecsam Maelor ac mae Sally Jones yn feddyg teulu ym Meddygfa Bodnant ym Mangor.
Os hoffech gefnogi unrhyw un ohonynt – ewch i’w tudalennau ‘Virgin Money Giving’ i gyfrannu – byddant wrth eu bodd i gael eich cefnogaeth. Cliciwch ar un o’r dolenni isod i gyfrannu:

Kirsty Thomson
Cliciwch yma i noddi Kirsty
Carmel Barnett
Cliciwch yma i noddi Carmel
Alice Roberts
Cliciwch yma i noddi Alice
Sally Jones
Cliciwch yma i noddi Sally
Mandy Watkins
Cliciwch yma i noddi Mandy

Bydd yr holl arian yn mynd at Apêl Cancr Gogledd Cymru sy’n gweithredu o dan Gofrestriad Ymddiriedolaeth Elusennol Awyr Las


Dawns Ffurfiol yr Elusen

Caiff y Ddawns Ffurfiol hon ei chynnal a'i threfnu bob dwy flynedd gan deulu Powell-Jones o Hendrerwydd ger Rhuthun. Mae'n ddigwyddiad sydd wedi hen sefydlu erbyn hyn ac yn boblogaidd iawn. Mae'r ddawns hefyd yn parhau i godi ei safonau gyda'i chyfraniad i Apêl Cancr Gogledd Cymru.
Ers y Ddawns gyntaf yn 2004 mae’r digwyddiad wedi codi £50,000 i gyd a chyda'r arian sydd wedi ei gynhyrchu ers 2012 mae'r swm yn £31,575.00 i gyd. Caiff yr holl arian hwn ei roi i Apêl Cancr Gogledd Cymru.

pic01

Cyngerdd Nadolig Henllan

Caiff Cyngerdd Nadolig Henllan ei chynnal yn flynyddol gan deulu Jones o Henllan. Mae'n gyngerdd poblogaidd sydd wedi dod yn rhan bwysig o galendr digwyddiadau codi arian yr Apêl felly peidiwch â'i methu. Ers 2012, mae pedwarawd o artistiaid o The Guildhall School of Music and Drama a The Royal Academy of Music wedi rhoi eu gwasanaeth am ddim trwy berfformio opera a cherddoriaeth ysgafn bob blwyddyn i bobl Sir Ddinbych. Mae hyn yn unig wedi codi dros £12,000. Carol Pritchard Jones ydy prif drefnydd y digwyddiad hwn ac roedd hi'n awyddus i wneud mwy na chodi arian o werthu tocynnau'r Cyngerdd yn unig. Felly, mae hi wedi rhedeg Marathon Llundain ddwywaith gan roi'r holl arian mae hi wedi ei godi at yr un achos. Mae hyn felly wedi cynyddu'r rhoddion cyfan i dros £17,800 yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Lowri, Laura, Anthony, Harry a Elliot
 
Lowri, Laura, Anthony, Harry a Elliot

image(Cyfieithiad yma yn fuan...)

21/12/17 - Christmas Raffle Draw 2017 (Cyfieithiad yma yn fuan...)
The draw for the North Wales Cancer Appeal Grand Christmas Raffle took place on the 21st December 2017 at The Cancer Treatment Centre. We were delighted that patients being treated at the Centre agreed to make the draw for the 24 wonderful prizes on offer. Paula and Les Butterworth from Pwllheli and Phil Hammond from Ellesmere kindly drew all the tickets and thanks to them for their valued assistance.

A full list of Prize Winners is available here

We would like to take this opportunity to thank all those who kindly bought tickets and donated to our cause and a very big thank you to all the local businesses and individuals who donated items which resulted in a fabulous selection of prizes.

The Raffle raised over £1,700 and we were also pleased to receive over £300 in general donations whilst selling tickets. Thanks especially to the couple who left a cheque for £200 at Main Reception.
Thank You/Diolch Yn Fawr


29/08/17 - Ride for Cancer 11 – 16 Medi

Mae Ride for Cancer yn digwydd rhwng 11 ac 16 Medi 2017 ac mae Carolyn Tilley (Gwraig y diweddar John Tilley) a Jane Gough-Roberts ill dau yn marchogaeth i godi arian i Apêl Cancr Gogledd Cymru.

Mae teulu John Tilley, aelod hoff o’r gymuned wledig a cheffylau lleol, yn ei golli’n fawr ac felly roedd Carolyn yn credu y byddai hon yn ffordd addas iawn o godi arian ar gyfer Apêl Cancr Gogledd Cymru ac Elusennau Tiwmor Ymennydd Gogledd Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i

http://www.rideforcancer.life/friends/jane-gough-roberts/
http://www.rideforcancer.life/friends/john-tilley/

Neu gallwch ddefnyddio ein tudalen ‘Rhoi’ i gyfrannu at Apêl Cancr Gogledd Cymru gan ddyfynnu enw Jane Gough Roberts neu John Tilley


image13/02/2017 - Codi Arian yn Stadiwm Parc Eirias

Er gwaetha’r tywydd mawr, aeth criw mentrus, a oedd yn cynnwys ‘Draig Gymreig’, ati i gasglu dros £230 gan bobl a oedd yn ymweld ag un o’r gemau rygbi rheolaidd ym Mharc Eirias, Bae Colwyn ym mis Tachwed


image16/01/2017 - Cyngerdd Nadolig Henllan wedi codi dros £2,700

Roedd y digwyddiad Nadoligaidd 'Baubles & Warbles' ar yr 17eg o Ragfyr unwaith eto wedi denu cynulleidfa frwdfrydig iawn gan lenwi Eglwys Henllan. Bu i'r pedwarawd, sydd wedi derbyn hyfforddiant clasurol yn Llundain, sef Laura, Lowri, Piran ac Anthony, ynghyd â'u pianydd, Elliot, godi'r to gyda rhaglen ddifyr o opera glasurol a cherddoriaeth ysgafn. Llwyddodd y cyngerdd i godi dros £2,700 i Apêl Cancr Gogledd Cymru. Mae'r perfformwyr wedi dweud y byddan nhw'n dychwelyd yn 2017, os bydd hynny'n bosibl, ac mae dyddiad dros dro wedi'i bennu. Fe wnaeth casgliad i'r Eglwys hefyd godi dros £300.


image16/01/2017 - Canlyniad Raffl Fawr y Nadolig

Bu i Apêl Cancr Gogledd Cymru dynnu Raffl Fawr y Nadolig yn y Ganolfan Trin Cancr yn Ysbyty Glan Clwyd ychydig cyn y Nadolig. Roedd dau glaf wrth law i dynnu'r tocynnau buddugol yr oedd pobl ar draws gogledd Cymru wedi'u prynu. Roedd dau ddeg tri o wobrau i gyd.

Mae Anthony Francis a Richard P Prichard (sydd yn y llun), y ddau o Ynys Môn, wrthi'n derbyn triniaeth yng Nghanolfan Trin Cancr Gogledd Cymru ac roedden nhw'n fwy na bodlon cymryd seibiant i'n helpu.

Dywedodd Katy Powell Jones - Cadeirydd Apêl Cancr Gogledd Cymru, "Rydym ni'n ddiolchgar iawn i'r rhai sydd wedi cyfrannu gwobrau, i'r cleifion, i'r staff ac i'r cyhoedd sydd oll wedi cefnogi Raffl Fawr y Nadolig. Rydym ni wedi derbyn cefnogaeth arbennig gan fusnesau a phobl leol oedd yn fodlon rhoi gwobrau arbennig. Trwy eu caredigrwydd nhw, a thrwy garedigrwydd y cyhoedd sydd wedi prynu’r tocynnau, rydym ni wedi gallu codi dros £1,700.00 fydd yn mynd tuag at gefnogi

cleifion, staff a gwasanaethau yma yn y Ganolfan Trin Cancr."

Dyma restr o'r holl docynnau a fu ennill gwobr (rydym ni wedi rhoi gwybod i'r holl enillwyr)

0034 – 1225 – 0060 – 1006 – 0387 – 0494 – 1763 – 0782 – 1594 – 0146 – 0863 – 1702 – 0158 – 0915 – 0633 - 1883- 0328 – 1690 – 1781 – 1043 – 0697 – 0793 – 1484


image16/01/2017 - Clwb Pêl-droed Caerwys yn codi £1,300 mewn gêm bêl-droed elusennol ar Ddydd San Steffan

Bu i glwb pêl-droed Caerwys gynnal gêm bêl-droed elusennol ar ddydd San Steffan gyda’r chwaraewyr yn gwisgo gwisg ffansi. Bu i'r gêm, a charedigrwydd cymuned Caerwys, lwyddo i godi £1,300 ac fe gafodd yr arian ei rannu rhwng St Kentigerns ac Apêl Cancr Gogledd Cymru.

Cafodd siec o £650 ei chyflwyno i Katy Powell Jones ar ran Apêl Cancr Gogledd Cymru yn y Dderwen Frenhinol yng Nghaerwys (llun). Dywedodd Katy, "Rydym ni'n hynod o ddiolchgar i bobl Caerwys ac i glwb pêl-droed Caerwys am ddewis ein helusen i elwa o hanner yr elw o’r gweithgaredd codi arian arbennig hwn. Mae St Kentigerns yn elusen y mae gennym ni edmygedd mawr tuag ati ac mae'n cyd-fynd yn dda iawn gyda'n gweithgareddau codi arian. Mae rhannu rhoddion, fel yr un gan gymuned Caerwys, yn fraint fawr ac rydym ni'n edrych ymlaen at gydweithio gyda Lesley a'i thîm yn St Kentigerns yn y dyfodol."

Yn y llun, o'r chwith i'r dde, mae: Lesley Thomas (St Kentigerns), Shona Parry (Unigolyn sy'n codi arian yng Nghaerwys), Katy Powell Jones (Apêl Cancr Gogledd Cymru), Helen Edwards (Clwb Pêl-droed Caerwys) a Shaun Davies, (Is-gadeirydd CPD Caerwys)


image16/01/2017 - Clwb 116 o Geir yn rhoi £130 o enillion Raffl Rali'r Nadolig

Bu i'r Clwb 116 o Geir gynnal ei rali flynyddol, Bring It On Scatter Rally, ar ddydd Mawrth y 27ain o Ragfyr, gan ddenu cystadleuwyr lleol oedd am brofi eu sgiliau mordwyo a chael gwared â'r holl dwrci oedden nhw wedi'i fwyta dros y Nadolig.

Yn ogystal â dilyn cliwiau a chyfeirnodau ar draws y map 116 OS, rhoddodd y cystadleuwyr a'r gwylwyr hefyd gynnig ar ein raffl lwyddiannus a lwyddodd i godi £130 i'r elusen.

Dywedodd Rick Bate, Cadeirydd Clwb 116 o Geir, "Rydym ni wrth ein boddau fod Apêl Cancr Gogledd Cymru wedi'i enwi fel Elusen y Clwb. Rydym ni'n gobeithio y bydd hyn, ynghyd â'n digwyddiadau codi arian trwy gydol y flwyddyn, yn helpu cleifion cancr ar draws gogledd Cymru mewn rhyw ffordd neu'i gilydd."


image16/01/2017 - Clwb Perchnogion MG yn rhoi £2,350 o'i Ras Eryri Flynyddol

Mae Apêl Cancr Gogledd Cymru wedi derbyn yr elw o Ras Eryri Flynyddol MG gaiff ei threfnu gan Glwb Perchnogion MG Gogledd Cymru. Rhoddodd Sandra Armstrong, Ysgrifennyddes y Clwb, siec o £2,350 i Iona Davies sy'n gweithio i'r Apêl. Mae'r rhodd wedi mynd tuag at lawer o bethau, gan gynnwys, tuag at brynu byrddau newydd yn lolfa Uned Ddydd Heulwen er mwyn i gleifion sy'n derbyn cemotherapi eu defnyddio. Dywedodd Iona Davies, "Gall pethau ymarferol fel byrddau lle gallwch chi roi paned neu efallai eich gliniadur arno wrth ichi dderbyn triniaeth fod yn hynod o bwysig pan fydd cleifion yn treulio cyfnodau hir yn yr Uned Ddydd. Bydd y byrddau hyn yn gwneud pethau'n llawer haws i'r staff a'r cleifion ac rydym ni'n ddiolchgar iawn i Glwb Perchnogion MG am eu cyfraniad gwerthfawr."

Llun o Iona Davies, ar ran yr elusen, yn derbyn y siec gan Sandra Armstrong.


image16/01/2017 - Y peiriant Linac newydd yn mynd yn fyw

Roedd Apêl Cancr Gogledd Cymru, trwy ymdrechion pwyllgor blaenorol Apêl Ron a Margaret Smith, wedi rhoi dros £930,000 tuag at brynu peiriant Cyflymydd Llinellol newydd (Linac). Ym mis Hydref, bu i'r peiriant newydd hwn rhoi triniaeth i’w gleifion cyntaf un.

Dyma lun o’r peiriant Linac sy’n rhoi triniaeth i gleifion yng Nghanolfan Trin Cancr Gogledd Cymru, ac yna o'r dde i'r chwith - Carmel Bennett, Rheolwraig Gwasanaethau Radiotherapi - Katy Powell Jones, Cadeirydd Apêl Cancr Gogledd Cymru - Nest Bowl, cyn-gadeirydd Apêl Ron a Margaret Smith.


image22/10/2016 - Bu i gefnogwyr ar y Cae Ras ddangos eu haelioni unwaith eto drwy roi hwb o bron i £600.00 i gyllid Apêl Cancr Gogledd Cymru.
Bu i bedair o ferched o’r Apêl fynychu gyda help Uncorn a Timmy (fel y gwelwch yn y llun)!
.... gyda’r casgliad yn y gêm Gartref yn erbyn Bromley ar Hydref yr 22ain 2016.
Rydym yn hynod ddiolchgar i Reolwyr a Chefnogwyr Clwb Pêl Droed Wrecsam am ganiatáu inni fynychu’r gemau cartref er mwyn cynyddu ein cyllid.

image 04/08/2016 - Derbyn siec am £1,000 gan glwb ceir lleol yn Niwrnod Gala Llanelwy

image30/07/2016 - Casgliad bwced yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam yn codi dros £600 i'r Elusen

image30/07/2016 - Y chwe rhedwr yn cwblhau'r ras Marathon ac yn codi record o £19,000 at yr Apêl

30/07/2016 - Clwb 116 o Geir yn mabwysiadu Apêl Cancr Gogledd Cymru fel Elusen y Clwb ac yn rhoi dros £280 i'r Apêl

30/07/2016 - Honda Gogledd Cymru Llandudno yn mabwysiadu Apêl Cancr Gogledd Cymru fel un o'i elusennau ac yn rhoi £250 yn y casgliad bwced yng Nghlwb Rali Targa 116 o Geir

 

Lluniau a Dogfennau Hanesyddol

press

Nick Stuart Charity Focus - cliciwch yma

press

Journal Press Cutting - 5.11.15 - cliciwch yma

press

Iona Journal Press Cutting - 5.11.15 - cliciwch yma

press

Denbighshire Free Press - 17.8.16 - cliciwch yma