Newyddion Diweddaraf

Calendr Sally Smart 2024

  • 251023-calendar-2024

Rydym yn hynod ddiolchgar i Sally Smart a’i holl ffrindiau yn Breast Buddy am eu cymorth parhaus. Maent yn dîm anhygoel, a gyda’i gilydd, maent eisoes wedi codi swm rhyfeddol i Apêl Canser Gogledd Cymru ac yn parhau i wneud hynny gyda’r calendr cyffrous hwn ar gyfer 2024. Mae’n boeth o’r wasg a bydd yr elw o’r gwerthiannau yn parhau i helpu a chefnogi eraill. Maent ar gael o’r allfeydd a restrir isod, neu gellir eu postio yn y DU am £2.60. Cysylltwch â bfcalendar2024@gmail.com neu cysylltwch dros Facebook Breast Friends Calendar 2024.

Siop y Pentre, Llanrhaeadr, Denbigh
Llanbenwch, Ruthin
Reebee’s Florist, Denbigh
Morgan’s Hair & Wigs, Prestatyn
Radiotherapy Reception, Cancer Unit, Ysbyty Glan Clwyd

Saesneg yn unig...

It's wonderful to see Sally and her friends making a positive impact by promoting breast awareness through their calendar sales. Their sales table has popped up in many local venues. The support from the community has been fantastic. A huge thank you to you all.

  • Calendr

FANTASTIC. Selling over 1500 calendars is a significant achievement. Sally and her Breast Buddies have popped up with their sales table at many local venues. They are doing a great job raising awareness for breast health. It's wonderful to see community support making a such positive impact. A BIG thank you to Sally, her Breast Buddies and all those who have supported her

  • 121223-sally

LLWYDDIANT GWYCH SALLY SMART A'I CHYFEILLION MYNWESOL
Gwelwyd hanes Sally ar draws sianeli BBC Cymru ddoe 22/01/23. Hyd yn hyn maen nhw wedi codi £20,000 tuag at Apêl Canser Gogledd Cymru, sy'n cefnogi Canolfan Ganser Glan Clwyd. Mae gwerthiant ei chalendr wedi cael hwb ychwanegol ers i’r BBC ddarlledu’r stori. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i bob un ohonynt.

  • Sally yn gafael ar calendrr

 

 


Her Kilimanjaro i Carole Roxburgh a Sukhdev Hanzra

  • Carole Roxburgh a Sukhdev Hanzra ar ben yr Wyddfa

Ar 11 Ionawr 2024, bydd Carole Roxburgh a Sukhdev Hanzra o Carbone Clinic UK yn mynd i’r afael ȃ her Kilimanjaro i godi arian ar gyfer Apêl Canser Gogledd Cymru er cof am John a Karen Hall, gynt o Brookhouse Mill, Dinbych. Bydd yr her hon er cof am John a Karen yn adlewyrchu eu hymrwymiad  tuag at achos mor bwysig. Roedd y ddau unigolyn rhyfeddol hyn yn ffrindiau gwerthfawr i Carole, a’i theulu, a hefyd ei chyflogwyr.

Ym mis Mehefin 2021, aeth tîm o Brookhouse Mill i’r afael ȃ Her y Tri Chopa er cof am John Hall. I ddangos eu cefnogaeth, ymunodd llawer o bobl leol ar gyfer y copa olaf, sef yr Wyddfa. Er gwaethaf ei salwch, disgleiriodd gwytnwch a phositifrwydd Karen ac roedd yn ennyd balch i Karen a Carole wrth iddynt gyrraedd pawb ar y copa i ddathlu llwyddiant y tîm. Pendantrwydd Karen ar yr Wyddfa wnaeth ysbrydoli'r her hon, a bydd yn annog yr hyfforddiant wrth ddringo Kilimanjaro.

Os hoffech gefnogi Carole Roxburgh a Sukhdev Hansra, ewch i’w tudalen Just Giving: https://www.justgiving.com/page/carole-roxburgh

Carole a Sukhdev yn cyrraedd y brig.

Pleser yw cael rhannu hanes eu camp ryfeddol, er cof am ffrindiau annwyl, sef John a Karen Hall, Melin Brwcws, Dinbych.


Roedd dringo Kilimanjaro yn her eithriadol i Carole a Sukhdev. Wrth hyfforddi am fisoedd i baratoi at yr hyn a oedd ar y gweill, roedd y gofynion corfforol, y dyfalbarhad, yr agwedd benderfynol ac ysbryd cydweithredol yn hanfodol. I ddringo Kilimanjaro, mynydd y mae ei gopa 5,895 medr uwchlaw wyneb y môr. Trefnwyd y daith gan Action Challenge, ac roedd deg o gyfranogwyr yn y tîm, yn cynnwys arweinydd mynydd profiadol iawn a meddyg penderfynol, y ddau yn hanu o Ogledd Cymru yn digwydd bod. Roedd Carole gwerthfawrogi ymdrechion holl aelodau'r tîm cynnal yn fawr.

Gwthio'r ffiniau, derbyn heriau yn frwdfrydig, a chyflawni campau nodedig. Fe wnaethant ymdeithio yn ystod y dydd ac yn y tywyllwch, yn aml yn cerdded trwy'r nos am 13 awr ar y tro. Fe wnaethant brofi tymereddau eithafol, cenllifoedd o law, eira a salwch pen mynydd. Ond ar waethaf y trallodion hyn, fe wnaeth dyfalbarhad diysgog Carole, Sukhdev ac aelodau'r grŵp sicrhau eu bod wedi dal ati.

Rydym yn hynod o ddiolchgar i Carole a Sukhdev, ac i bawb wnaeth eu noddi a'u cefnogi. Maent wedi codi £5,603, swm anhygoel.


Rhannu stori Shaun Loughran.

Roedd yn bleser cyfarfod â Shaun a Gary yn ddiweddar ac i dderbyn y swm anhygoel o £2,355.89 a godwyd ganddynt i’r elusen. Roedd Shaun, sy'n derbyn triniaeth yn y Ganolfan Ganser ar hyn o bryd, yn llawn canmoliaeth i'r staff a'r driniaeth mae’n derbyn yno.
Fe'n difyrwyd gan Gary fu’n adrodd ei hanes yn dringo yn yr Himalayas. Roedd yn sialens bersonol, yn heriol yn gorfforol ac yn feddyliol a hynny dan amodau tywydd hynod o anodd.
Rydym i gyd yn llawn edmygedd o’r ddau ddyn yma ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu rhodd hael

  • 030723-shaun-a-garry

Ar ôl cael diagnosis o ganser y coluddyn yn 2020, ac yn dal i ymladd y frwydr, mae Shaun Loughran wedi derbyn rhywfaint o’i driniaeth gemotherapi yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru YGC. Yn gefnogwr Everton brwd, roedd Shaun eisiau codi arian yn y lle cyntaf fel arwydd o’i ddiolch a chodi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn drwy ymuno â chronfa Bobby Moore. Yn fuan ar ôl ei lawdriniaeth, cychwynnodd ar yr her drwy wneud ymarferion cicio i fyny bob dydd am fis mewn gwahanol leoliadau ar draws y wlad. Mae wedi codi swm sylweddol o arian. Mae’n unigolyn cadarnhaol, gwydn ac eithriadol o ddewr. Mae Shaun yn ysbrydoliaeth i bawb, ac yn awr, bydd ei ffrind agos Garry Eccleston yn mynd i’r afael â her wahanol iawn drwy godi arian ar gyfer Apêl Ganser Gogledd Cymru. Mae Gary wedi teithio i Fynyddoedd yr Himalaia yn Nepal, a bydd yn ymgymryd â thaith heriol, sef y 3 gwersyll cychwyn, y 3 copa a’r 3 bwlch, dros 21 diwrnod, gan ddechrau ddydd Sul, 5ed Mawrth 2023. Ambell ddiwrnod bydd yn troedio am 10 i 12 awr ac ar uchder uchel, lle bydd llai na 50% o ocsigen ar brydiau. Rydym yn dilyn ei stori a’i ffotograffau anhygoel ar dudalen Facebook Shaun, ac rydym yn hynod ddiolchgar i’r ddau ohonynt a'u holl gefnogwyr am eu llwyddiannau codi arian gwych ar gyfer Apêl Canser Gogledd Cymru.

  • 200323-garry
  • 200323-garry-2

I gyfrannu, ewch i dudalen Justgiving Garry Eccleston

Donations can also be made here


Jack Edwards

Ar 29 Ebrill rhedodd Jack 100km o Brestatyn i Fangor. Roedd ei daith yn dilyn llwybr Arfordir Gogledd Cymru gyda golygfeydd hyfryd ar hyd y siwrnai. Gyda her 62 milltir o'i flaen penderfynodd Jack godi ychydig o arian er cof am ei fam Michaella, oedd yn 34 oed pan gollodd ei bywyd i ganser y fron yn 2005. Roedd Jack yn 11 oed ar y pryd a'i chwaer Kaleigh yn 14. Derbyniodd Michaella ei gofal yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru ac roedd Jack eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r ganolfan am y gofal gwych a gafodd hi.

Gyda chymorth ei deulu, ffrindiau a’i gefnogwyr lu, cododd Jack swm anhygoel yn fuan, gyda’r ffigwr terfynol yn agos at £5000.

Roedd y teulu’n awyddus i wybod lle byddai eu harian yn mynd, ac roeddem yn gallu eu sicrhau y bydd pob ceiniog a roddwyd o fudd uniongyrchol i gleifion a staff y Ganolfan Trin Canser.

Da iawn Jack am gwblhau'r pellter anhygoel yma mewn 13 awr 26 munud a 55 eiliad. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar iddo ef a’i gefnogwyr am ddewis Apêl Canser Gogledd Cymru.

Diolch yn fawr i chi gyd.

  • 190523-jack's-run

Cyfieithiad i ddilyn...

Congratulations to our successful runners for completing the London Marathon 2023

Wonderful news and well done to them all:-

Our 3 Gold Bond places were taken by Jac Glover who achieved a personal best of 3hrs 47mins 28secs

Caroline Usborne who made an impressive 4hrs 27mins 40secs

Daniel Grugel who completed it in 4hrs 28mins 50 secs

Our commiserations to Donna Maiden who sadly had to pull out due to injury.

Teri Clayton who ran under a ballot place completed the course in 4hr 28mins 50 secs.

We are so grateful to their commitment and tenacity and thank them all for their superb fundraising efforts.

  • 260423-jac-glover-sm
  • 260423-aniel-grugel-sm
  • Dr Caroline Usborne with the current NWCA committee

Jac’s “Movember”.

Following Jac’s “Movember” blog on Instagram, which was a very enlightening and honest account of his treatment journey, we are immensely grateful to him and all his faithful followers for the very impressive amount raised. Their support and Jac’s efforts to raise funds for a coffee machine at the Cancer Treatment Centre has resulted in a grand total of £4,881. Many thanks to all for this incredible amount.

Jac is still raising money for The North Wales Cancer Appeal. He is running the London Marathon on April 24th. His Just Giving page remains active - if you wanted to sponsor him please go to www.justgiving/campaign/nwca Jac Glover

  • 040423-jac-lrg

Cyfieithiad yma'n fuan...

London Mall mid a london Marathon

North Wales Cancer Appeal 2023 London Marathon

These people were successful in gaining one of our Gold Bond places to run the London Marathon this year. They are taking on this tough challenge to raise funds for The North Wales Cancer Appeal, which supports the Cancer Treatment Centre at YGC.
Dr Caroline Usbourne consultant in Palliative Medicine and Clinical Director of Cancer Services at YGC. Caroline has worked for the trust for many years and wants to do more for those affected by cancer.
Daniel Grugel is an Eye Care digitisation Architect within the Trust. He is motivated to run the marathon in recognition of the exceptional care his wife received at the North Wales Cancer Centre.
Jac Glover who is employed at Qioptic in St Asaph is hugely grateful for the care he received at Glan Clwyd CTC. He has already raised a considerable amount of money towards the purchase of a coffee machine for Heulwen Day unit.
Donna Maiden, Donna is a keen runner and a member of the Welsh Athletic Association, she has raised funds in the past for cancer services in North Wales.
Teri Clayton received her place through the ballot and is keen to raise funds for the NWCA.

We hope that training is going well for this year’s successful applicants.
We will be watching the big screen on 24th April and willing them on to achieve their challenge. We are truly grateful to them.
Their fundraising will benefit those who require treatment and care at the Cancer Centre. Running the London Marathon is a truly memorable and enjoyable experience and we wish them all the very best of luck.

If you would like to donate please do so via NWCA Just Giving Page

Donations can also be made here

The NWCA holds 5 Gold Bond places to run the London marathon for 2024. Applications for 2024 will be invited later this year so keep your eyes on this website.


Kate Waterhouse, Waterhouse Flowers - Treffynnon

Hyfryd oedd cyfarfod Kate pan ddaeth atom i drafod ei chynlluniau i godi arian i Apel Canser Gogledd Cymru (NWCA), er cof am y diweddar John a Karen Hall o Brookhouse Mill, Dinbych.

Trefnodd Kate 2 sesiwn creu torchau cyn y Nadolig yn ei siop flodau yn Nhreffynnon.

Cymerodd 37 o bobl ran a rhoddwyd 100% o’r arian i’r elusen. Roedd Kate wedi gwerthu canhwyllau, trefnu raffl a pharatoi lluniaeth. Derbyniodd yr elusen £740 i gyd.

Rydyn ni am fynegi ein diolch diffuant i Kate a'i ffrindiau Lisa a Carolina am drefnu digwyddiad mor llwyddiannus.

  • 250123-kate-waterhouse

Yr Adran Radiotherapi

Ar ddechrau 2021, fe wnaeth radiotherapydd o YGC gysylltu â ni. Dywedodd fod angen i'r cleifion hynny sydd â chanser y groth neu'r brostad fod â phledren lawn cyn cael eu sgan tomograffeg gyfrifiadurol i gynllunio at eu radiotherapi. Bydd y sgan cynllunio yn pennu'r rhan a gaiff ei thargedu'n uniongyrchol mewn triniaeth radiotherapi dra-chywir. I baratoi at y sgan, rhoddid cwpan bapur i'r cleifion a gofyn iddynt yfed 500ml o ddŵr cyn y sgan. Ni oedd unrhyw farciau mesur ar y cwpanau, felly sylweddolodd y staff yn fuan bod yn rhaid iddynt gadw golwg ar y mesuriadau hyn i sicrhau eu bod yn gywir. Yn aml iawn, byddai cleifion yn yfed rhy ychydig o ddŵr, oherwydd byddent yn sgwrsio ger y ffynnon dŵr a ddim yn ystyried faint yr oeddent wedi'i yfed. O ganlyniad i hynny, roedd llawer wedi mynd i mewn i gael y sgan heb yfed y cyfanswm gofynnol o ddŵr, ac roedd hynny'n golygu oedi ac ail-wneud y sgan, gan wastraffu amser gwerthfawr. Hefyd, roedd angen ailgylchu nifer sylweddol o gwpanau papur.

Aethom ati i ymchwilio ynghylch y mathau o boteli plastig â marciau mesur arnynt oedd ar gael i'w prynu. Roedd aelodau'r pwyllgor yn awyddus i gynorthwyo, oherwydd byddai hynny'n fuddiol i'r staff yn ogystal â'r cleifion. Cafodd yr adran Radiotherapi ein harcheb gyntaf am 500 o boteli yng Ngorffennaf 2021.

Ers hynny, rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan y staff: Bydd cleifion yn gwybod faint yn union y byddant wedi'i yfed, ac erbyn hyn, nid oes angen i'r staff gadw golwg ar y paratoadau a gellir defnyddio amser gwerthfawr mewn mannau eraill. Roedd y marciau mesur ar y poteli yn golygu y gwnaeth pob claf yfed y cyfanswm gofynnol cyn eu sgan. Roedd cleifion yn ddiolchgar eu bod yn cael eu llestr yfed eu hunain. Yn ychwanegol, gellid defnyddio'r botel yn ystod pob un o sesiynau eu triniaeth radiotherapi, sef rhwng 20 a 33 o ymweliadau i gael eu triniaeth.

Roedd ein logo a'n lliwiau ar bob potel. Fe wnaethom lynu taflen fechan ar bob un, yn amlinellu ein gwaith, cyfeiriad ein gwefan a'n manylion cysylltu. Rydym wedi cael cydnabyddiaeth a chyfraniadau gan gleifion diolchgar. Mae'r archeb gyntaf o 500 o boteli wedi cael ei defnyddio, ac roedd staff a chleifion yn eu canmol yn fawr. Yn dilyn hynny, rydym wedi cytuno i roi cyflenwad arall i'r adran ac rydym ni wedi gosod ail archeb am 1000 o boteli.

Dywedodd Pat Evans, Rheolwr yr Adran Radiotherapi:

“Rwy'n hynod o ddiolchgar bod Apêl Canser Gogledd Cymru wedi treulio amser yn gwrando ar ein hanawsterau ac wedi cydweithio'n agos â ni i ganfod ateb. Mae hyn yn cynnig buddion o bob safbwynt - cydymffurfiaeth y cleifion a phrotocolau yfed, defnydd mwy effeithiol o adnoddau radiotherapi, bod yn fwy ecogyfeillgar trwy wastraffu llai o bapur a phlastig, llai o risgiau o ran rheoli heintiau, a llai o waith dyfalu cyfanswm y dŵr.

Y fantais ychwanegol yw'r ffaith fod elusen canser wedi cyflenwi'r poteli â'u logo arnynt, sydd wedi amlygu'r gwaith gwych a wneir gan yr elusen, a gall cleifion weld, hyd yn oed trwy weithredoedd bychan, sut bydd yr elusen yn cynorthwyo.”

  • 190123-bottles

Jac Glover

Mae Jac Glover wrth ei fodd â gweithgareddau awyr agored ac roedd yn ddyn ifanc ffit, 29 mlwydd oed. Roedd yn beldroediwr brwd ac yn chwarae i'w dîm lleol. Roedd yn mwynhau mynydda, rhedeg a theithio ac yn 2018, rhedodd farathon Llundain.

Roedd yn meddwl mai adwaith i'w frechiad Covid diweddar oedd y lwmp a ddarganfyddodd ar bont ei ysgwydd. Felly, roedd yn sioc lwyr iddo pan ddaeth o hyd i lwmp yn ei geilliau, a chael gwybod bod ganddo ganser y ceilliau Cam 3. Gwnaed y diagnosis ym mis Tachwedd 2021. Ers hynny, cafodd Jac lawdriniaeth a sawl rownd o gemotherapi. Cwblhaodd ei driniaeth ym mis Chwefror 2022.

Cafodd y driniaeth ei rhannu rhwng Ysbyty Gwynedd, Bangor ac Ysbyty Glan Clwyd. Dywedodd Jac fod ei driniaeth yn y ddau ysbyty yn "benigamp!" Ond, roedd gan Ysbyty Gwynedd beiriant coffi da iawn... Ar ôl siarad â chleifion eraill, eu teuluoedd a'u ffrindiau, sylweddolodd Jac fod llawer o bobl yn cwyno am goffi a siocled poeth dyfrllyd Ysbyty Glan Clwyd. Mae blas drwg metalig yn eich ceg o ganlyniad i'r holl gyffuriau sy'n cael eu rhoi i mewn i chi ac mae coffi llefrith neu siocled poeth hufennog yn gwneud byd o wahaniaeth, meddai.

Gyda hynny mewn golwg, aeth Jac ati i godi arian drwy Apêl Canser Gogledd Cymru. Ei nod oedd codi digon o arian i brynu peiriant coffi newydd ar gyfer uned dydd Heulwen, Ysbyty Glan Clwyd.

Bu Jac yn rhoi pigion llawn gwybodaeth o'r enw 'Chemo and Coffee' ar ei dudalen Instagram bob dydd drwy gydol mis Tachwedd. Roedd y blogiau dyddiol hyn yn cofnodi ei brofiadau ar hyd ei daith driniaeth. Er bod darllen am rai o'r sgil-effeithiau annymunol yn anodd, roedd synnwyr digrifiwch hyfryd Jac i'w weld yn amlwg. Roedd Rhiannon, ei gariad gyda Jac bob cam o'r daith a gyda'i gilydd, roeddent yn gofyn i'w holl ddilynwyr gyfrannu at y nod. Mae’n gofnod gwych sy’n darlunio cryfder, penderfyniad ac agwedd bositif Jac.

Mae Jac eisiau rhannu ei stori i helpu unrhyw un arall a all elwa o'i brofiad.

Rydym ni'n wirioneddol ddiolchgar i Jac, ei gyflogwyr yn Qioptiq, Llanelwy am eu rhodd hael o £1000, ac i'w holl ddilynwyr caredig sydd wedi helpu Jac godi dros £6000.

  • 310123-jac



Baubles and Warbles yn Eglwys St Sadwrn

Roedd yn hyfryd cael croesawu Baubles & Warbles yn ôl i Henllan. Hon oedd eu 9fed blwyddyn yn Henllan, a gwnaethom groesawu cymaint o ddilynwyr rheolaidd, rhan fwyaf ohonynt wedi mynychu pob cyngerdd ers y cychwyn cyntaf. Roedd Eglwys St Sadwrn dan ei sang, gyda phob tocyn wedi’i werthu. Cawsom ein diddanu drwy gydol y cyngerdd gan leisiau penigamp dwy soprano, Lowri a Laura, y bariton, Bartholemew, a’r cyflwynydd a’r tenor Anthony, i gyd yng nghwmni Ann Edwards y pianydd. Gwnaethant ein syfrdanu gyda'u perfformiadau o ariâu opera poblogaidd, caneuon o'r sioeau cerdd a rhai o ffefrynnau'r Nadolig. I gyd wedi’i gymysgu â hiwmor da, chwerthin a chyfraniad gan y gynulleidfa. Cafodd y gynulleidfa eu swyno wrth i Lowri ganu O Mio Babbino Caro gan Puccini, llwyddodd i gyfleu emosiwn y gân mor glir, ac eisteddon ni wedi ein swyno’n llwyr. Llenwodd lais Laura’r eglwys pan ganodd I Could Have Danced All Night o My Fair lady. Yn ogystal â thalentau Anthony fel comedïwr a dawnsiwr, roedd ei fersiwn o A Spaceman Came Traveling gan Chris De Burgh yn wirioneddol syfrdanol. Mae llais Bartholemew mor esmwyth, ac roedd ei fersiwn o’r Gân Nadolig, Chesnuts roasting by the Fire, gan Nat King Cole, yn anhygoel. Roedd yn gymysgedd perffaith o ganeuon a wasanaethodd i’n swyno i gyd.

Ar y cyfan, roedd yn noson hynod bleserus a helpodd godi arian mawr ei angen, nid yn unig ar gyfer yr elusen, ond hefyd ar gyfer yr eglwys.

  • 040123-baubles

Helen Job - Taith twy liw

Mae Helen Job yn arlunwraig leol sy'n byw yn nhroedfryniau hardd Dyffryn Clwyd, ger Dinbych.

Cafodd Helen ddiagnosis yn cadarnhau canser y fron ar ddechrau 2020. Fe wnaeth y cymorth, y gofal a phroffesiynoldeb y staff yn y Ganolfan Ganser wneud cymaint o argraff arni, penderfynodd, ar ôl cwblhau ei thriniaeth, gafael yn ei brws paent a pharatoi cyfres o baentiadau yn adlewyrchu taith ei thriniaeth. Fe wnaeth Helen arddangos ei gwaith yn Theatr Twm o'r Nat yn Ninbych rhwng Hydref a Rhagfyr 2022, ac yn garedig iawn, cyfrannwyd elw'r gwaith a werthwyd ganddi at Apêl Canser Gogledd Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi ei haelioni a'i charedigrwydd yn fawr. Codwyd cyfanswm o £2000 a'i gyfrannu at yr elusen.

“Mae’n digwydd”

Fe wnaeth Helen a'i phartner Rajan hefyd gofnodi ei stori mewn blog. Trwy gydol y diagnosis a'r driniaeth, fe wnaethant gofnodi profiad beunyddiol Helen mewn disgrifiad gonest iawn o'i hynt a'i helynt, yr adegau da a'r rhai anodd. Mae'n ddetholiad sydd wedi'i ysgrifennu'n hyfryd o'r enw “It Happens”. Mae Helen a Rajan wedi trefnu i gael argraffu a rhwymo eu gwaith, oherwydd roeddent yn dymuno rhannu profiad Helen gan obeithio y bydd hynny'n fuddiol i eraill. Mae rhywfaint o gopïau caled wedi'u gwerthu, gan godi £247, a gyfrannwyd yn hael at NWCA. Mae'r llyfr, ar ffurf tudalennau troi, hefyd ar gael i'w ddarllen ar y wefan hon.

Mae copïau caled ar gael. Cysylltwch naill:
Secretary@northwalescancerappeal.co.uk
Admin@northwalescancerappeal.co.uk

Diolch o galon i Helen a Rajan am eich gwaith codi arian ac am eich haelioni.

  • 030123-newyddion-2

Sam Johnson yn cwblhau ei Her 1000 o Filltiroedd ar Ddydd Nadolig

Ar Ddydd Calan 2022, fe wnaeth Samantha Johnson osod nod iddi hi ei hun - rhedeg 1000 o filltiroedd erbyn hanner nos ar 31ain Rhagfyr 2022. Sylweddolodd yn fuan fod hon yn her anturus a beichus iawn o safbwynt corfforol, gan ystyried nad oedd hi'n rhedwraig. Roedd yn gyfystyr fwy neu lai â marathon bob 10 diwrnod. Roedd dyfalbarhad a chydnerthedd Sam yn drawiadol, a chyflawnodd ei nod ar Ddydd Nadolig, wythnos yn gynharach na'r disgwyl. Roedd Sam a'i brawd Simon yn dymuno codi arian i gydnabod y gofal gwych a gafodd Simon yng Nghanolfan Ganser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd.

Datblygodd Simon ganser y gwddf yn Ionawr 2021, a chafodd driniaeth flinderus yn cynnwys cemotherapi a radiotherapi.

Ers hynny, mae wedi datblygu rhagor o gymhlethdodau, ac mae wedi canmol y gofal a gafodd gan y staff. Roedd Simon yn dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i'r staff a'r cleifion sy'n derbyn gofal yn y Ganolfan Ganser, felly gyda'i gilydd, a thrwy gyfrwng her rhedeg Sam, maent wedi codi cyfanswm anhygoel o £6502:46 at Apêl Canser Gogledd Cymru. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i'r teulu Johnson ac i bawb a gyfrannodd mor hael.

  • 030123-newyddion-1-sm

Sally Smart Diweddariad Rhagfyr 2022

Mae cyfanswm Sally wedi cynyddu unwaith eto ac rydym ni’n hynod o ddiolchgar iddi hi am godi £815 ychwanegol, gan sicrhau cyfanswm anhygoel gwerth £8,848. Diolch yn fawr i chi Sally ac i’ch holl ffrindiau sy’n codi arian am eich llwyddiant rhagorol.


Diolch o galon i Sally Smart, Iwan Roberts a'i Bydis Bron sydd wedi llwyddo i godi’r swm anhygoel o £8,033.62

Diolch o galon i Sally Smart, Iwan Roberts a'i Bydis Bron sydd wedi llwyddo i godi’r swm anhygoel o £8,033.62 i Apêl Canser Gogledd Cymru.

Ym mis Ionawr eleni, cafodd y ffotograffydd priodasau o Brestatyn, sydd wedi ei gwobrwyo am ei gwaith, ddiagnosis o ddau diwmor ffyrnig yn ei bron.
Yn dilyn mastectomi ym mis Chwefror, dechreuodd Sally, sy’n 52 oed , ar driniaeth cemotherapi yn y Ganolfan Ganser yn Ysbyty Glan Clwyd.

Gofynnodd Sally a'i ffrindiau i Hayley, perchennog ‘The Hideaway’ ym Mhrestatyn a allen nhw gynnal diwrnod o godi arian yn ei bar, ac fe gytunodd hithau Mentrodd partner Sally, Iwan Roberts, sy'n ffermwr lleol, hefyd i fyny Kilimanjaro er mwyn codi ariad i’r uned hefyd, gan godi £1,949.23 ychwanegol.

"Mae wir wedi bod yn waith tîm anhygoel gan bawb, ac mae'r cyfan ar gyfer adnodd gwych sydd ar stepen ein drws," meddai Sally.

Hoffwn ddiolch i holl staff y Ganolfan Ganser gan mai nhw yw'r staff gorau fedrwch chi eu dychmygu i ofalu am y rhai hynny sydd, yn anffodus, angen y gwasanaeth yma."

  • 211122-sally

All Marathon Runners Complete the Course In Record Time (Cyfieithiad yma'n fuan)

We are delighted to report that all the runners competing in the TCS London Marathon finished and in personal record times.

Helen Roberts finished in 5 hours and 52 minutes. Helen has raised the amazing total of £4,125

Nesta & Ryan McCluskey finished the course in 3 hours & 16 minutes – a brilliant time and between them have raised to date a total of £5,350

John Roberts – also running his first Marathon finished in 3 hours and 47 minutes and has raised £2,285

Tracey Harris finished in 4 hours and 36 minutes – raising £2,425

  • 121022-mccluskey-lrg
  • 131022-marathon-1
  • 131022-marathon-2
  • 131022-marathon-3

We are hugely grateful to them all for all their efforts and tremendous fundraising totals.


TCS London Marathon 2022 All Places Now Filled (Cyfieithiad yma'n fuan)

The runners now training and fundraising are:

Helen Roberts from Ruthin
Nesta Mccluskey from Llanymynech /Maelor Hospital Wrexham
Ryan Mccluskey from Llanymynech
Tracey Harris – BCUHB – Wrexham
John Roberts from Llandyrnog


Marathon Virgin Money Llundain 2020 & 2021

Roedd Marathon Llundain i fod i gael ei gynnal ar 26 Ebrill ond cafodd ei ohirio oherwydd y pandemig coronafirws. Gohiriwyd y marathon yn wreiddiol tan 4 Hydref 2020. Fel y gwyddwn bellach cafodd y dyddiad hwn hefyd ei symud a chafodd y marathon ei gynnal yn y pendraw ym mis Hydref 2021.

Gwnaeth ein tîm o redwyr eu gorau glas dan amgylchiadau anghyffredin iawn i gynnal eu ffitrwydd a pharhau â'r gwaith anodd o godi arian trwy gydol y pandemig, ac yn y diwedd gwnaethant waith gwych i'r Elusen

Penderfynodd Gethin Evans beidio ag oedi, gan redeg Marathon rhithiol yn 2020, tra bod y lleill wedi dewis cadw eu lleoedd i redeg yn Llundain yn 2021. Ar y diwrnod y dylid bod wedi cynnal Marathon Llundain, rhedodd Gethin y 26.2 milltir a gynlluniwyd ymlaen llaw ar gwrs a gafodd gydnabyddiaeth a sêl bendith y marathon.

Mae Gethin yn hen law ar gystadlu mewn marathonau ac uwch-farathonau. Mae wastad yn hyfforddi ar gyfer ei ddigwyddiad nesaf ac yn aml gellir ei weld yn rhedeg y ffyrdd a'r lonydd cefn o amgylch ei gartref yn Llanelwy. Yn 2019, cafodd aelod agos o'i deulu ganser a chafodd driniaeth yng Nghanolfan Ganser Gogledd Cymru. Dywedodd Gethin fod y driniaeth a'r gofal yn rhagorol. Oherwydd hyn roedd Gethin eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.

Trefnodd ei fam nifer o ddigwyddiadau codi arian yn lleol a rhwng y ddau codwyd £4273.80 at yr elusen - anhygoel yn wir!

Fe wnaeth gweddill y rhedwyr ddal i hyfforddi ac yn y diwedd cawsant eu cyfle i deithio i Lundain a rhedeg y cwrs llawn ar ddydd Sul y 3ydd o Hydref. Y rhedwyr oedd Paul Hodges, Lucy Morris, Cathryn Beckett, Tim Watson a Janine Butterworth.

Dewisodd Tim a Cathryn redeg gyda'i gilydd mewn tutus bale a tiaras a oedd yn werth ei weld, er bod Marathon Llundain yn denu llawer mwy o wisgoedd rhyfedd na hyn wrth gwrs!

Hyd yma mae'r cyfanswm cyfun a godwyd, gan gynnwys ymdrech rithiol marathon Gethin wedi casglu dros £14,500 ac yn dal i gynyddu. Gan fod y Marathon yn hwyr yn digwydd, mae digwyddiadau codi arian yn dal i gymryd lle i gefnogi digwyddiad 2021.

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer lleoedd Bond Aur sydd ar gael ar gyfer Marathon TCS Llundain ym mis Hydref 2022 ac os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio cliciwch ar y pdf yma i lawrlwytho'r Ffurflen Gais a'r Telerau ac Amodau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch naill
Secretary@northwalescancerappeal.co.uk
Admin@northwalescancerappeal.co.uk

Noder fod isafswm codi arian er wmyn cael eich derbyn ar gyfer un o'r lleoedd Bond Aur hyn sef £2,000.00, a rhaid i'ch cais ddod i law erbyn hanner nos ar 31ain Mai 2022.

Marathon Application Form PDF English

Marathon Application Form PDF Welsh

  • tim-and-cathryn-lrg
  • gethin-evans-lrg

Un ymdrech arall....

Penderfynodd tîm o bedwar aelod o staff a oedd yn gweithio yn yr Uned Mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd wneud yn fawr o’u hangerdd dros ddringo mynyddoedd yn ddiweddar.

Roedd y tîm sef Hari Muppala, Karen McGoona, Gwenan Johnson a Karen Rigby yn gweld fod cerdded yn rheolaidd, y cyfeillgarwch, a gallu ailgysylltu â natur yn rhyddhad o straen mawr gweithio mewn amgylchedd ysbyty prysur yn ystod pandemig COVID.

Maent yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn teithiau hir a phenderfynon hwn ymgymryd â'r 3000 Cymreig - gan orchfygu'r 15 mynydd yng Nghymru sydd yn uwch na 3000 troedfedd. Penderfynodd y criw godi arian at Apêl Canser Gogledd Cymru ac mae Gwenan wedi cefnogi’r Elusen yn y gorffennol trwy redeg Marathon Llundain yn 2019. Dywedodd Gwenan “mae’n elusen wych yr ydym wrth ein boddau yn ei chefnogi ac rwy’n falch iawn o ddweud ein bod ni wedi casglu £1,715.65.

  • one-more-push-lrg

CODI £7,000 ER COF AM GARETH LLOYD - WILSON

Bu farw Gareth Lloyd Wilson o Gei Connah, a elwid yn 'Wils' gan ei ffrindiau a theulu, ym mis Ionawr 2021 yn 40 oed yn dilyn brwydr hir gyda chanser. Roedd Gareth, gyda chefnogaeth ei wraig Ellen a’i ferch Annabelle yn derbyn gofal gan y tîm yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru yng Nglan Clwyd ac mae Ellen wedi son am y gofal ‘gwych’ a gafwyd yno. Dywedodd na ellid fod wedi gofyn am fwy, ac roedd y tîm yn y Ganolfan Trin Canser bob amser yno ar gyfer Gareth. Gyda'u cefnogaeth llwyddodd i ddal i fod yn obeithiol.

Aeth Ellen a'i ffrindiau a'i theulu ati i godi arian i'r Ganolfan ac yn gynharach y mis hwn cyhoeddwyd bod y cyfanswm gwych o £7,000 wedi’i gasglu tuag at Apêl Canser Gogledd Cymru. Penderfynodd brawd Ellen, Gareth arall, anrhydeddu angerdd Wils at redeg trwy redeg 82 milltir mewn mis - gan godi dros £1,800 tuag at y cyfanswm.
Neidiodd nith Wils, Lauren Jones, Sky Dive 10,000 troedfedd noddedig a chododd dros £2,000 er cof am ei hewythr. Dywedodd Lauren 'dewisais neidio o’r awyr fel fy ffordd i o ddangos fy niolchgarwch i'r bobl anhygoel hyn a oedd yn gofalu am Yncl Wils gan fy mod yn cofio pa mor falch oeddwn i pan gododd arian i elusen trwy wneud camp debyg ei hun. Roeddwn i’n 10,000 troedfedd yn agosach ato trwy blymio fel y gwnes i a fo’.

Fel arfer roedd gan Jonathan Roberts, a oedd yn was priodas Gareth ac yn ffrind oes iddo, ben wedi’i shafio ac felly penderfynodd Johnny dyfu ei wallt yn hytrach na’i eillio fel y gwna rhai. Roedd hyn yn hynod o lwyddiannus a chodwyd dros £2,200, yn ogystal â steil gwallt i Jonathan y penderfynodd ei gadw ar ôl iddo weld y canlyniadau!
Yn y llun gwelir Ellen Lloyd Wilson ynghyd â'i brawd Gareth, ei nith Lauren, Johnathan Roberts a staff a oedd yn gofalu am Wils y tu allan i'r Ganolfan Trin Canser yn dilyn cyflwyno siec am £7,000.0

  • lauren-skydive
  • lauren-skydive-2
  • fundraisers-gareth-wilson
  • staff-gareth-wilson

BAKE OFF LLANELWY £ 330

Pan gwblhaodd Pam Roberts o Lanelwy driniaeth yng Nghanolfan Triniaeth Canser Gogledd Cymru, penderfynodd yr hoffai godi arian i'r Ganolfan trwy gael Te Prynhawn yn yr Haf. Fodd bynnag, penderfynodd Pam, gyda'r holl ansicrwydd ynghylch Covid, y byddai yn pobi ac yn gwerthu'r cacennau yn lle yn y diwedd, gyda’r elw yn mynd i'r Elusen

Cychwynnodd felly bobi yn gynnar yn y bore, a gwerthwyd y danteithion i ffrindiau a theulu, a ddaeth yn ôl am chwaneg! Fe helpodd ei merch Joann sy'n gweithio yn Denbigh Cutters hefyd trwy werthu'r cacennau i gleientiaid yn y Salon.

Dywedodd Pam 'Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ffordd wych o godi rhywfaint o arian i'r Ganolfan a helpodd fi ac chan fy mod yn mwynhau pobi, fe dreuliais ambell fore cynnar pan oedd y tywydd yn boeth yn coginio. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni, gyda chefnogaeth teulu a ffrindiau a chefnogaeth Denbigh Cutters, wedi codi’r swm teilwng o £330.00. '

  • bake-off
  • bake-off-2

TREIAL Y TRI CHASTELL 2021

Dewisodd Treial y Tri Chastell, digwyddiad ceir Clasurol a gynhaliwyd ym mis Medi Apêl Canser Gogledd Cymru fel ei Elusen enwebedig yn 2020. Yn anffodus canslwyd digwyddiad 2020 oherwydd Covid 19 a chafodd y digwyddiad ei aildrefnu trwy ardaloedd harddaf Gogledd Cymru. dros bedwar diwrnod ar ddechrau mis Medi.

O ganlyniad i haelioni’r Ymgeiswyr, elwodd yr Elusen o gyfanswm o £7,437.00 mewn rhoddion. Fe roddodd un ymgeisydd caredig na allai fynychu digwyddiad 2021 ond a oedd wedi talu ei Ffi Mynediad yn ôl yn 2020 y ffi gyfan honno i'r Elusen - a oedd yn dros £2,000.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Ian Crammond a'i Bwyllgor am ddewis yr Elusen ar gyfer y digwyddiad 20/21 a cheir isod rai lluniau o’r digwyddiad arbennig yn 2021 gyda'n Hysgrifennydd yng Nghar 56 - a orffennodd yn 23 ain ar ôl pedwar diwrnod heriol yn y car.

  • three-castles-car
  • three-castles
  • 261021-three-castles-1-lrg
  • 261021-three-castles-2-lrg

TRI CHOPA MIL BROOKHOUSE YN CODI DROS £20,500

Cododd Her Tri Chopa Brookhouse Mill dros £20,500 er Cof am y Landlord John Hall. Dywedodd Josh Hall, mab John 'Doedden ni byth yn meddwl y byddem ni'n cyrraedd y cyfanswm anhygoel hwn ac ar ran y Tîm, fy mam Karen a fy chwaer Emily hoffwn ddiolch i bob un a roddodd mor hael i'r achos teilwng hwn er cof am fy nhad '.


CAGLU DROS £16,000 I ELUSEN ER COF AM DAFARNWR LLEOL POBLOGAIDDthree peaks /brookhouse mill

Mae tîm Tri Chopa Brookhouse Mill wedi cwblhau eu Her Tri Chopa yn llwyddiannus mewn llai na 24 awr ac wedi codi dros £16,000 (ac yn dal i dyfu!) ar gyfer Apêl Canser Gogledd Cymru.

Pan fu farw John Hall, Perchengog Tafarn The Brookhouse Mill yn Ninbych eleni, penderfynodd ei fab, Josh Hall arwain tîm o staff o Brookhouse Mill ar Her Tri Chopa i godi arian ar gyfer Apêl Canser Gogledd Cymru. Roedd Josh ynghyd â Rheolwr y Bwyty Ellis Wood, y Prif Gogydd Gareth Rogers, Sam Roberts, Liam Roberts a Rob Thomas, yn teimlo y byddai hon yn deyrnged addas i John ac ar yr un pryd yn gyfle i gasglu arian i'r Elusen sy'n cefnogi Canolfan Ganser Gogledd Cymru a fu’n gofalu am John trwy gydol ei driniaeth.

Cwblhaodd y tîm gwrol yr her mewn 22 awr a 45 munud, gan gyrraedd copa’r Wyddfa ychydig cyn 11am ar Fawrth 29 ain Mehefin wedi dechrau i fyny Ben Nevis am 12 ganol dydd y diwrnod cynt.

Dywedodd Josh 'Roedd Scafell Pike dros nos yn dipyn o her wrth inni ddechrau yn hwyr yn y nos a gorffen am 3.45am, felly roeddem yn cerdded yn y tywyllwch y rhan fwyaf o’r amser gyda dim ond fflach lampau pen a GPS i’n helpu. Dechreuon ni ddringo'r Wyddfa am 8.45am ac roedden ni mor falch o weld y copa ar y diwedd. Cawsom gefnogaeth wych ar y ffordd i fyny'r Wyddfa gyda fy Mam Karen a’m chwaer Emily yn ymuno â ni ynghyd ag oddeutu ugain o gefnogwyr eraill naill ai'n cerdded gyda, ni neu'n cwrdd â ni ar y brig lle cawsom ddathliad gwych! '

Dywedodd Ellis Wood 'Roedd yr amodau'n dda ond yn gynnes iawn ac roeddem yn ddiolchgar am gyflenwad diddiwedd o fwyd a dŵr gan ein Prif Gogydd Gareth Rogers a ymunodd â ni hefyd am ran o'r daith i fyny Ben Nevis. Roedd y llun i brofi ein bod wedi cyrraedd copa Scafell Pike yn anodd gan ei bod hi'n dywyll a doedd neb yno i dynnu’r llun inni ... felly rhoddwyd creigiau a fflach lampau pen mewn pentwr ac yna amserydd a gobeithio am y gorau! '

Ychwanegodd Josh Hall 'Mae'r swm rydyn ni wedi'i godi yn rhyfeddol a hoffem i gyd ddiolch yn fawr iawn i bob cyfrannwr a busnes a gynorthwyodd ac a roddodd mor hael at yr achos gwych hwn er cof am fy nhad. Mae holl Dîm Tri Chopa Brookhouse yn byw yn Nyffryn Clwyd ac mae'r gefnogaeth gan y gymuned leol wedi bod yn rhagorol; maen nhw wedi bod mor hael '.

Hoffai'r tîm a'r elusen hefyd ddiolch i Powlsons Press ym Mae Colwyn am y posteri, y taflenni a'r faner fach, Sionel Llanfairfechan am y crysau-T , Wall Signs Flint am y baneri mawr, G&G Motors Dinbych am wasanaethu Bws mini Brookhouse Mill yn rhad ac am ddim ac Alun Pierce a dalodd am y tanwydd ar gyfer yr holl daith - diolch yn fawr i bawb.

  • 050721-ben-nevis-peak
  • 050721-team-karen-and-emily-hall-sm
  • 050721-scafell-2
  • 050721-snowdon
  • 050721-team-1

Gallwch barhau i gyfrannu at yr her ar:
Virgin Money Giving at https://uk.virginmoneygiving.com/JoshHall11
neu yn y Brookhouse Mill, Dinbych


Coleshill Masonic Lodge, Y Fflint yn Rhoddion er Cof am Jamie Lloyd Hughes

Mae Coleshill Lodge Rhif 7910 sydd wedi’i leoli yn y Fflint wedi rhoi £500 i Apêl Canser Gogledd Cymru er cof am un o’u haelodau Jamie Lloyd-Hughes.

Dywedodd Will Johnson, Stiward Elusen y Lodge 'Roedd Jamie yn ddyn gwych ac roedd pawb yn hoff iawn ohono yn y ‘lodge’, ond yn anffodus dygwyd ef oddi wrthym yn rhy ifanc. Bu’r Ganolfan Trin Canser o gymorth mawr i Jamie gan roi gobaith iddo pan roedd mawr ei angen arno. Oherwydd hynny roeddem yn dymuno gwneud y rhodd fechan hon gan ein bod yn gwybod y byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio'n dda i gefnogi'r Ganolfan sy'n trin llawer o rai eraill fel Jamie ac sydd yn ei dro yn rhoi gobaith iddynt hwythau hefyd. '

  • 050721-coleshill-masonic-1



HER TRI CHOPA ‘BROOKHOUSE MILL’ Er Cof am John Hall 28ain / 29ain Mehefin 2021

Mae tîm o staff dan arweiniad Josh Hall o Brookhouse Mill yn Ninbych wedi penderfynu ymgymryd â'r her o orchfygu'r Tri Chopa mewn llai na 24 awr er Cof am John Hall a fu farw’n gynharach eleni.
Penderfynodd Josh, mab John, gyda chymorth a chefnogaeth Rheolwr y Bwyty Ellis Wood a'r Prif Gogydd Gareth Rogers, y byddai'n deyrnged weddus i John a oedd bob amser wedi dyheu am gyflawni rhywbeth tebyg ond a oedd ‘bob amser yn rhy brysur yn gweithio’ yn ôl Josh!
Bydd y tîm gan gynnwys Sam Roberts, Liam Roberts a Rob Thomas, sydd i gyd yn gweithio yn The Brookhouse yn gadael ar ôl gwaith ddydd Sul 27 Mehefin ym mws mini ffyddlon Brookhouse Mill ac yn cychwyn ar eu taith i gopa Ben Nevis yn oriau mân ddydd Llun 28 Mehefin. Maen nhw'n gobeithio concro Scafell Pike dros nos, gan gyrraedd copa'r Wyddfa cyn 10am ddydd Mawrth 29 Mehefin
Dywedodd Josh 'Bydd y Prif Gogydd Gareth yn gyrru ac yn rhoi bwyd inni ar hyd y daith ac rydym yn gobeithio cyrraedd copa'r Wyddfa erbyn 10am ddydd Mawrth 29 Mehefin, neu'n gynharach os yn bosibl.
Soniodd Dad sawl gwaith yr hoffai ddringo'r Wyddfa ond roedd bob amser yn rhy brysur, felly roedd yr hogiau yma yn Brookhouse o'r farn y byddai'r her hon yn deyrnged addas, tra hefyd yn codi arian ar gyfer Apêl Canser Gogledd Cymru sy'n cefnogi'r Ganolfan Ganser yn Glan Clwyd a edrychodd ar ei ôl trwy gydol ei salwch.
Mae fy Mam Karen hefyd fel arfer yn cynnal Cinio Merched i'r Elusen bob blwyddyn ond oherwydd Covid nid yw wedi gallu gwneud hyn y llynedd nac eleni, felly gobeithio y bydd hyn yn mynd rhywfaint o'r ffordd i lenwi'r bwlch codi arian hwnnw hefyd.
Ni ein hunain fydd yn talu’r costau ar gyfer cyflawni'r her ond byddem yn gwerthfawrogi unrhyw rodd fawr neu fach fel y gallwn godi swm haeddiannol o arian i'r Elusen. '

  • 090621-team-pic

Gallwch barhau i gyfrannu at yr her ar:
Virgin Money Giving at https://uk.virginmoneygiving.com/JoshHall11
neu yn y Brookhouse Mill, Dinbych


POTELI DŴR PERSONOL AR GYFER CLEIFION CANSER Y PROSTAD

Mae'r Adran Driniaeth Radiotherapi yng Nghanolfan Ganser Gogledd Cymru, Ysbyty Glan Clwyd yn gweld cyfartaledd o 450 o gleifion canser y prostad y flwyddyn. Un o'r materion ymarferol a wynebir yn ystod eu triniaeth yw'r angen i bob claf yfed 500ml o ddŵr cyn eu triniaeth Radiotherapi.

Sylweddolodd Jonathan Evans, Radiotherapydd yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, pa mor anodd oedd hi i fonitro faint o ddŵr yr oedd cleifion yn ei yfed gan ddefnyddio cwpanau papur, a bod angen sawl cwpan papur ar bob claf. Meddyliodd felly am y syniad o roi potel ddŵr bersonol i bob claf. Byddai hynny nid yn unig yn lleihau ar y gwastraff ond hefyd yn ei gwneud hi’n haws monitro hylifau oedd yn cael ei yfed gan gleifion ac yn lleihau'r risg o haint.

Cysylltodd Jonathan ag Apêl Canser Gogledd Cymru i ofyn a fyddent yn barod i roi 500 o boteli dŵr i'r adran i'w defnyddio gan y grŵp cleifion penodol hwn. Gyda'r risg ychwanegol o groes-heintio, credai Jonathan y byddai potel ddŵr bersonol yn ddatrysiad delfrydol.

Carol Pritchard Jones, Cadeirydd Canser Gogledd Cymru Apêl aeth ati i ddod o hyd i boteli addas a rhoi manylion cyswllt ar gyfer yr Elusen a'r logo ar y poteli

Dywedodd Pat Evans, Rheolwr Gwasanaethau Radiotherapi yn y Ganolfan 'Roedd syniad Jonathan y dylai cleifion dderbyn eu potel bersonol eu hunain yn ddatrysiad delfrydol i'n problem ac rydym yn ddiolchgar i Apêl Canser Gogledd Cymru am eu rhodd garedig o 500 o boteli yfed plastig. Mae cleifion yn cael 20 ymweliad dydd dros gyfnod o bedair wythnos a defnyddir y poteli yn ystod eu hymweliadau. '

Dywedodd Carol Pritchard Jones 'Rydym yn falch iawn o allu darparu'r poteli hyn i'r Adran Radiotherapi a chynorthwyo gydag un o'r heriau dydd i ddydd sy'n ein hwynebu. Mae'r poteli hefyd yn darparu lle delfrydol inni hyrwyddo'r Elusen a'r gwaith parhaus a wnawn ar y cyd â Chanolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd '.

  • 180221-water-bottle-1
  • 180221-water-bottle-2-sm

Y MARATHON 100,000 PERSON CYNTAF Y BYD!

Mae disgwyl i Farathon Virgin Money Llundain 2021 fod y marathon gyda’r mwyaf o redwyr yn cymryd rhan erioed, gyda 100,000 o redwyr anhygoel yn mentro yn y ras. Sut mae hyn yn bosibl? Wel, mae Marathon rhithiol Virgin Money Llundainyn dychwelyd eleni, gyda 50,000 lle ar gael i redwyr wneud eu 26.2 milltir o ble bynnag maen nhw yn y byd, ar ddydd Sul, 3 Hydref.

Ar yr un diwrnod, bydd 50,000 o bobl yn rhedeg y llwybr marathon traddodiadol o Blackheath i The Mall - cynnydd o dros 7,000 ar y niferoedd blaenorol sydd wedi cwblhau’r ras. Hoffech chi fod yn un o’r 100,000?

Yn sicr dyma y Marathon i gael lle arno yn 2021. P'un a ydych yn rhedeg eich marathon cyntaf, eich degfed marathon ar hugain, eisiau cyfalwni her am oes, eisiau gwireddu eich breuddwyd, eisiau dathlu neu goffau ...mae gennym lefydd ar eich cyfer i redeg tuag at Apêl Canser Gogledd Cymru.

Mae Apêl Canser Gogledd Cymru yn Elusen sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ac sy'n codi arian i brynu offer ar gyfer Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru. Ers 1991 mae’r elusen wedi casglu mwy na £3 miliwn

Cyhoeddwyd y ceisiadau i gael lle yn y Marathon ar 8 Chwefror 2021 ar gyfer cael lle trwy fynediad cyffredinol, ond os na chawsoch le, yna mae gennym ni lefydd ar gael.

Gallwch lawrlwytho'r ffurflen Gais yma…….

Neu anfonwch E-bost at admin@northwalescancerappeal.co.uk a byddwn yn anfon ffurflen gais atoch yn syth.


12 Uned Arsylwi Newydd ar gyfer Ward Enfys

poster

Pan glywodd Pwyllgor Apêl Ganser Gogledd Cymru fod yn rhaid i staff diwyd ar Ward Enfys rannu peiriannau arsylwi rhwng cleifion, penderfynodd yr Elusen fynd ati i helpu. Gydag un peiriant yn cael ei rannu ar hyn o bryd rhwng nifer o ystafelloedd, roedd yn rhaid i staff sy'n cynnal arsylwadau rheolaidd ar gleifion sy'n derbyn triniaeth dreulio amser yn sterileiddio'r uned gyffredin cyn symud o un claf i'r llall, gan olygu bod amser gwerthfawr yn cael ei golli a bod risg gynyddol o heintio.

Ymrwymodd yr Elusen gyllid i brynu 12 o beiriannau newydd sydd wedi'u gosod erbyn hyn i'w defnyddio ym mhob ystafell unigol. Dywedodd Natalie Griffiths, Prif Nyrs Ward Enfys (yn y llun ar y dde) 'Rydym ni'n ddiolchgar iawn am rodd fel hon sy'n ein helpu mewn ffordd ymarferol o ddydd i ddydd er mwyn cynnig y safon uchaf o ran gofal a chysur i'n cleifion. Mae arbed amser trwy unrhyw fodd posibl ar ward brysur yn werthfawr a phan fo rhai cleifion yn cael eu harsylwi gymaint â phob hanner awr, mae'r amser hwnnw'n prysur gronni.'

Ychwanegodd Natalie 'Rydym bellach yn gobeithio codi digon o arian i brynu'r union unedau ar gyfer nifer o ystafelloedd eraill yn y Ganolfan Trin Canser sydd hefyd yn gorfod rhannu'r offer hwn'.

Yn y llun, mae Owen Jones o Wrecsam gyda Natalie Standish ar y chwith - Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd a Natalie Griffiths - Prif Nyrs y Ward yn ei arsylwi.


Wildcat Ukulele yn Codi £400 tuag at NWCA

Derbyniodd Paul Barnard driniaeth Radiotherapi yn ddiweddar yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru ac fel ffordd o ddiolch, cafodd syniad arloesol i godi arian at yr Elusen. Mae Paul yn gwneud offerynnau cerddorol ac mae wedi dechrau ar brosiect i greu Iwcalili yn arbennig ar gyfer Apêl Ganser Gogledd Cymru cyn mynd yn ei flaen i’w roi mewn arwerthiant lle gwnaeth y cynigydd llwyddiannus ei roi’n rhodd i'r Elusen. Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y cynigydd llwyddiannus wedi talu £360.00 am yr offeryn gan gynyddu ei rodd i £400.00 er budd yr Elusen.

Mae lluniau o'r offeryn gorffenedig yn dangos teyrnged wych a chwbl unigryw i waith yr Elusen a'r Ganolfan Trin Canser. Diolch o galon i Paul Barnard a Paul Garrud – y cynigydd llwyddiannus.


posterposter


Treial y Tri Chastell 2020

poster Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Treial y Tri Chastell 2020, sef digwyddiad Ceir Clasurol, sy'n cael ei gynnal yng Ngogledd Cymru o 2 hyd at 5 Mehefin 2020 wedi dewis Apêl Ganser Gogledd Cymru fel eu helusen enwebedig.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal ymysg golygfeydd gwych a chroeso cynnes Gogledd Cymru a bob blwyddyn, bydd criw ymroddedig a pharod yn cynnwys aelodau a selogion o nifer o Glybiau Ceir yng Ngogledd Cymru'n ymgynnull ym mhob tywydd i helpu i gynnal y digwyddiad ysblennydd yma. Roedd y trefnwyr yn meddwl y byddai'n deyrnged addas i bobl Gogledd Cymru, sy'n gwneud cyfraniad mor fawr at y digwyddiad, y bydd Elusen leol sy'n cefnogi Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn elusen o ddewis ar gyfer 2020.

Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth Treial y Tri Chastell ac edrychwn ymlaen at fod yn rhan o'r digwyddiad gwych yma pan fydd yn dychwelyd i Ogledd Cymru. Bydd rhai o'n prif noddwyr/roddwyr yn rhan o'r criw trefnu ac allan yn stiwardio ac rydym yn gwybod y bydd llawer o bobl sy'n cefnogi gweithrediad y digwyddiad yn gyfarwydd â gwaith gwych Apêl Ganser Gogledd Cymru a'r Ganolfan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Diolch yn fawr unwaith eto i drefnwyr y Tri Chastell ac i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiad 2020.


CLOSING DATE - Virgin Money London Marathon 2020 (cyfieithiad yn dod yn fuan)

Closing Date for Applications Extended To 30th November 2019


Virgin Money London Marathon 2020 (cyfieithiad yn dod yn fuan)

Applications to run in the 2020 Virgin Money London Marathon are now live and if you want to be part of this great event and raise money for The North Wales Cancer Appeal please click here for the offical Application Form and submit before 10th November 2019.

London Marathon Application Form 2020 - click here

 


Ladies Lunch 2019 Raises £5,000 For NWCA (cyfieithiad yn dod yn fuan)

Now a regular annual event the Ladies Lunch kindly hosted by Karen & John Hall of the Brookhouse Mill in Denbigh, this year attracted over 170 guests. Saturday 17th August 2019 fortunately turned out dry and sunny and the marquee sited courtesy of Philip and Rachel Hughes at Brookhouse Farm provided the perfect venue for a fabulous Canape and Prosecco Reception, followed by a beautiful buffet lunch.

The Charity’s very generous supporters and sponsors provided over 30 Raffle and Auction prizes from Afternoon Teas, Spa Days and works of art to designer handbags and baskets of beauty products. It seemed that very few went home empty handed!
After record Raffle Ticket Sales and some very enthusiastic bidding in the Auction, as a result of Karen & John’s generosity the event raised £5,000 for the charity which to date is a record amount.

Thanks go to all our generous donors and sponsors and the wonderful duo called Keenan who entertained us all throughout lunch and then donated their services again as an Auction Lot – Thanks to you all …..

posterposterposter


Meirion Davies Pink silage Wrap Appeal (cyfieithiad yn dod yn fuan)SkyBall Raises over £26,000

Staff at Meirion Davies Agricultural Merchants in Denbigh came up with a novel idea of raising money for the charity. As silage wrap is one of the more popular and fast selling products at this time of year, the staff decided to ask their supplier Crop Packaging Systems of Wexford to supply them with a stock of bright pink wrap.

They came up with the bright idea that for every customer who purchased the unusual coloured wrap, Meirion Davies & Co donated the profit to the Charity and then matched it again – meaning by the end of the sales the grand total of £800.00 was raised.

posterThe staff and North Wales Cancer Appeal would like to thank every customer for their generous contribution, and to the Archdale family for sharing photographs of their pink bale wrap.
Also thanks to Meirion Davies Agricultural Merchants Limited for their valuable contribution to the fundraising effort. The Vale of Clwyd is truly ‘in the pink’ this Autumn …


Honeywell Employees Do It Again! (cyfieithiad yn dod yn fuan)

poster

Tracey Ham, an employee of Honeywell St Asaph recently celebrated her 50th Birthday along with her brother Jim Morris, with a Party for family and friends at the Nant Hall, Prestatyn.

Tracey arranged for a Charity Envelope fill – everyone put £5 in an envelope and then one was drawn out. The idea was the winner received half the proceeds and half went to Charity. However, on the night the winners – Pete Bradley and Donna Dagne – both Honeywell employees, donated their winnings back to the Charity.

We are therefore thrilled to report a total of £230 has been donated to the North Wales Cancer Appeal.

Thanks to Tracey and Jim, the Honeywell staff and of course the winners for their wonderful gesture.


Volunteer Secretary Vacancy (cyfieithiad yn dod yn fuan)

Marathon Runners

The North Wales Cancer Appeal Requires a Volunteer Secretary to assist with our increased workload. Are you computer literate and have any spare time to help us?


SkyBall

SkyBall Raises over £26,000

Ddydd Sadwrn 6 Ebrill trefnodd grŵp o ffrindiau ddawns arbennig iawn â’i chynnal yn Neuadd Wigfair yng Nghefn. Cafodd un aelod o’r grŵp ddiagnosis o ganser y fron ym mis Mawrth 2018 ac o ganlyniad i’r gofal a’r driniaeth ardderchog a gafoddyn y Ganolfan Trin Canser Gogledd Cymru roedd y grŵp eisiau codi arian i ddiolch iddynt.

Cafodd Kate ei thrin â’r peiriant radiotherapi y bu i’r elusen hon ei brynu yn 2015. Ar hyd ei thaith cafodd ei hysbrydoli gan y gofal o’r radd flaenaf a gafodd gan staff dawnus a gofalgar yn y Ganolfan Canser.

Mae’r grŵp wedi gweithio’n ddiflino dros sawl mis i wneud y SKYBALL ar thema James Bond yn noson llawn hwyl ac yn llwyddiant codi arian arbennig. Bu i lawer roi o’u hamser, gan gyfrannu mewn sawl ffordd a chyfrannodd sawl cwmni lleol yn hael iawn. Cododd yr Arwerthiant Addewidion £16,000 ar ei ben ei hun. Roedd profiadau gwefreiddiol a deniadol ar gael. Rydym yn ddiolchgar iawn i chi gyd.

Rydym ni, aelodau o’r Pwyllgor NWCA, eisiau diolch yn fawr iawn i’r merched ar y pwyllgor trefnu, Kate, Teri, Charlotte, Leanne, Erin, Lynsey, a Cathy ac i bawb a brynodd dicedi a rhoi mor hael trwy gydol y noson. Bydd siec gwerth £26,215.00 yn cael ei roi i’r elusen yn fuan.

Hoffwn ddiolch i Nathan Roberts ffotograffydd y noson a roddodd y lluniau arbennig y gallwch eu gweld yma ar wefan yr elusen. Rhoddodd Nathan ei wasanaeth am ddim ac mae’n gwerthu lluniau o’r digwyddiad y gallwch ddod o hyd iddynt yma i lle bydd yr holl elw’n mynd at gyfanswm codi arian y SKYBALL.

posterposterposter


Marathon Runners Raise £22,000 for the Charity (cyfieithiad yn dod yn fuan)

Marathon Runners

All 6 Gold Bond Runners have exceeded their £2,000 target and raised a combine total of over £22,000 for the North Wales Cancer Appeal. All runners finished and an additional £4,740.75 from independent runners in the London and Manchester Marathon, Anthony Parvin and Sam Herd brings our grand total raised to over £26,500. Thanks to all the runners for their huge and much appreciated effort.

Mae'r rhedwyr a'u rhesymau dros gymryd rhan yn y Marathon fel a ganlyn:

Dr Graham Ormondroyd

posterPennaeth Ymchwil Deunyddiau yng Nghanolfan CyfansawddBio
ym Mhrifysgol Bangor yw Dr Graham Ormondroyd. Mae Graham yn dathlu ei Ben-blwydd yn 40 yn 2019 a phenderfynodd yn hytrach na - yn ei eiriau ei hun 'cynnal parti mawreddog’, y byddai'n treulio'r flwyddyn gyfan yn codi arian ar gyfer elusen. Mae Graham wedi gosod nod o £10,000 iddo'i hun - her anferth!

Dywedodd Graham, 'maent yn dweud y bydd un ym mhob dau unigolyn yn cael eu heffeithio gan ganser ac mae hyn yn golygu gall fy ffrindiau a fy nheulu fod angen gwasanaeth Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru. Os gallaf wneud gwahaniaeth drwy 'dalu ymlaen' yna dyna rwy'n teimlo y dylwn wneud. Mae gennyf y dymuniad i helpu i wneud gwahaniaeth yn y gymuned leol.

I roi i gronfa Graham ewch ar

https://uk.virginmoneygiving.com/GrahamOrmondroyd

Trish Thompson

posterCafodd Trish ddiagnosis o ganser y fron ym mis Awst 2015 a chafodd driniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam a'r Ganolfan Trin Canser yn Glan Clwyd. Cwblhaodd Trish farathon Llundain yn 2010 a 2011 ac mae'n dweud na fyddai'n ei hystyried ei hun fel rhedwraig ond mae wrth ei bodd â her. Pan gafodd ddiagnosis ei bod wedi gwella ym mis Awst 2018, penderfynodd Trish y byddai'n mwynhau'r her o redeg y Marathon eto a dywedodd ‘nad oes unrhyw elusen arall y byddwn yn rhedeg drosti rŵan ac rwy'n falch fy mod wedi cael fy newis i redeg dros Apêl Canser Gogledd Cymru’.

Mae Trish yn cynnal cystadleuaeth dartiau a nosweithiau ras i helpu gyda'r codi arian - os hoffech roi i Trish, ewch ar

https://uk.virginmoneygiving.com/Team/TrishEmmaJanice

Hywel Roberts

posterHawys Roberts, chwaer Hywel oedd y prif unigolyn oedd yn codi arian ar gyfer Apêl Canser Gogledd Cymru yn Marathon Llundain 2018 ac fe deithiodd Hywel i lawr i'w gwylio'n cwblhau'r cwrs. Yn amlwg wedi’i ysbrydoli ac yn ysbrydoledig iawn (yn union fel ei chwaer!) Mae Hywel wedi cwblhau rhaglen 'Couch to 5k' i redeg mewn pedwar hanner Marathon drwy 2018 ac mae'n awr ar fin rhedeg yr un mawr!

Dywedodd Hywel 'gwelais holl waith caled ac ymroddiad Hawys, nid yn unig o ran yr hyfforddiant ond hefyd yr ochr codi arian ac rwy'n gystadleuol iawn a byddaf yn gwneud popeth allaf i gwblhau'r cwrs yn 2019 a chodi mwy na'r £7,000 a gododd Hawys. Fel athro yn Ysgol Dewi Sant y Rhyl, rwyf wedi dod ar draws cymaint o deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan y clefyd creulon hwn a hefyd wedi colli fy Ewythr a fy Nhaid i ganser, buaswn yn hoffi gwneud rhywbeth i helpu '.

I roi i gronfa Hywel, ewch ar

https://uk.virginmoneygiving.com/HywelRoberts3

Gwenan Johnson

posterYmunodd Gwenan â Chlwb Rhedeg "Denbigh Harriers" ddwy flynedd yn ôl ac mae wedi datblygu o daith rhedeg parc 5k i gwblhau tri hanner marathon ac un marathon llawn lleol yn 2017. Yn awr yn ceisio camu ymlaen i lefel arall, mae Gwenan a rhai o'i ffrindiau rhedeg wedi llwyddo i sicrhau lle trwy wahanol lwybrau ym Marathon Llundain 2019.

Mae Gwenan yn gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd ac wedi colli perthnasau annwyl i ganser. Mae hefyd yn gefnogwr brwd i Apêl Canser Gogledd Cymru, dywedodd Gwenan 'Fe wnes i fynychu Cinio Merched yn yr Haf a dysgais sut mae'r Elusen yn dyrannu arian ar gyfer offer a gofal cleifion lleol ac roedd arnaf eisiau ychwanegu at y gronfa hon. Mae fy merch wedi addo fy helpu i drefnu teithiau cerdded misol yn lleol a nosweithiau i godi arian ar gyfer fy nharged tra byddaf i allan ar y milltiroedd o hyfforddiant! '

I roi i gronfa Gwenan ewch ar

https://uk.virginmoneygiving.com/GwenanJohnson

Emma Stephens

posterCafodd ffrind gorau Emma driniaeth yng Nghanolfan Canser Gogledd Cymru ar gyfer canser y fron ychydig flynyddoedd yn ôl a gwelodd Emma'n bersonol sut mae cleifion a pherthnasoedd yn dibynnu ar y gwasanaeth y mae'r Ganolfan yn ei gynnig o wythnos i wythnos i unigolion Gogledd Cymru.

Dywedodd Emma, 'mae'r gefnogaeth werthfawr y mae'r Apêl yn ei roi i staff a chleifion yn y Ganolfan Trin Canser yn wych ac yn cefnogi'r gofal sy'n cael ei ddarparu. Roedd argymhelliad personol fy ffrind yn golygu cymaint, a byddaf yn hyfforddi a chodi arian drwy drefnu digwyddiadau a raffl i gefnogi cyfanswm terfynol fy nharged.'

I roi i gronfa Emma ewch ar

https://uk.virginmoneygiving.com/Team/TrishEmmaJanice

Holly Hulson

posterMae Holly wedi cael profiad uniongyrchol o effeithiau trychinebus canser drwy golli aelodau'r teulu ac mae hefyd yn gweithio fel dietegydd llym yn cefnogi cleifion canser i gynnal statws maethol trwy gydol eu diagnosis canser. Felly, mae wedi cael profiad o'r effaith y gall gofal canser gwych ei gael ar daith canser unigolion.

Dywedodd Holly, "Rwy'n edrych ymlaen i godi arian ar gyfer Apêl Canser Gogledd Cymru er mwyn eu helpu i sicrhau bod y driniaeth gwych sydd ar gael i unigolion sy'n dioddef gyda chanser yn parhau." Mae rhedeg yn newydd i Holly ond mae hi'n edrych ymlaen at yr her o hyfforddi ar gyfer marathon, ochr yn ochr â chodi cymaint o arian â phosibl ar gyfer Apêl Canser Gogledd Cymru (ac i gynllunio ei phriodas ychydig wythnosau ar ôl y marathon!).

Mae Holly yn bwriadu codi arian trwy ei chwant am fwyd. Mae'n bwriadu trefnu stondinau nwyddau wedi'u pobi yn ei chlwb criced lleol, gosod stondinau ar lwybrau cerdded lleol a lleoliadau eraill yng Nghaer a Gogledd Cymru. Mae hefyd yn bwriadu defnyddio ei sgiliau a gwybodaeth dieteteg a maethol i godi arian yn y flwyddyn newydd, felly os ydych yn edrych am gyngor diet yn gyfnewid am rodd, cysylltwch â hi ar hollyhulson@live.co.uk.

I roi i gronfa marathon Holly ewch ar

https://uk.virginmoneygiving.com/HollyHulson


NWCA yn rhoi Byrddau Erchwyn y Gwely Newydd yn Rhodd i Ward Enfys

posterPan wnaeth staff Ward Enfys yn y Ganolfan Trin Canser yn Ysbyty Glan Clwyd gyhoeddi bod Rheoli Heintiau wedi condemnio’r byrddau erchwyn y gwely sy’n cael eu defnyddio o ddydd i ddydd gan gleifion mewnol ers bron i 20 mlynedd, gwnaeth Apêl Ganser Gogledd Cymru gamu i’r adwy i helpu.

Gan nad oedd unrhyw gyllid ar gael yn y gyllideb i brynu byrddau newydd, gwnaeth gwirfoddolwyr yn yr Elusen benderfynu helpu o ran yr hyn sy’n rhan ymarferol ac angenrheidiol o fywyd ar ward.

Er bod yr Elusen yn codi arian yn gyffredinol at brosiectau cyfalaf mawr, fel rhodd Radiotherapi Linac o dros £900k yn 2016, mae NWCA hefyd yn hoffi helpu o dro i dro gyda phrosiectau llai o faint sy’n cynorthwyo lles a chysur cleifion. Mae’r byrddau newydd wedi’u gosod erbyn hyn ac maent yn cael eu defnyddio i’r eithaf. Dywedodd Adele Roberts, Prif Nyrs y Ward ‘Mae’r byrddau gymaint yn ysgafnach ac yn haws eu symud a’u glanhau, mae cleifion a staff yn ei gweld hi’n haws gweithio gyda nhw ac rydym ni mor falch bod yr Elusen wedi gallu eu prynu nhw.’

Yn y llun isod, mae Prif Nyrs Ward Enfys, Adele Roberts a’i staff ac un o’r byrddau newydd ar Ward Enfys


Baubles & Warbles ac Only Boys Aloud yn Llwyddiant Ysgubol

posterDaeth dychweliad hirddisgwyliedig ‘London Opera Quartet’ (sy’n fwy adnabyddus erbyn hyn fel ‘Baubles & Warbles’) â chynulleidfa frwdfrydig o fwy na 400 o bobl i Eglwys Gadeiriol Llanelwy nos Wener 15 Chwefror.

Gwnaeth Anthony Harris, arweinydd a thenor Barbles & Warbles roi darlun i ni o ddigwyddiadau’r noson. Dywedodd Anthony……

‘Roedd yn fraint i Baubles & Warbles gael dychwelyd i Ogledd Cymru ac i gynnal y cyngerdd gydag Only Boys Aloud ac wrth i’r gynulleidfa dyrru i mewn a llenwi man mawreddog ac eang Eglwys Gadeiriol Llanelwy hyd at yr ymylon, roeddem ni’n gwybod ei bod yn argoeli i fod yn noson dda! Rydym bob amser yn hoffi ychwanegu ‘elfen bersonol’ at ein digwyddiadau ni ac roedd dechrau’r noson gyda ‘Only You’ gan ‘The Flying Pickets’ yn fodd o’n hatgoffa am ein hymweliad ychydig flynyddoedd yn ôl pan wnaethom ni berfformio’r darn cerddorol hynod boblogaidd hwn ym mhriodas, y soprano, Lowri Hazzard, a gafodd ei geni yn Henllan.
Ni wnaeth y gynulleidfa oedi i ymuno trwy weiddi gyda’r ‘Ding Dong’ arferol wrth i ni symud trwy ein detholiad o ganeuon corawl clasurol yn cynnwys ‘Ave Verum’ gan Karl Jenkins ac ‘And so it Goes’ gan Billy Joel. Gwnaethom ni gamu o’r neilltu er mwyn i Only Boys Aloud fod yn ei chanol hi ar ôl perfformio deuawd bywiog a chynhyrfus o’r enw Tenor & Baritone, yn briodol iawn rhwng y tenor, Anthony Harris a’r Bariton Bas, Piran Legg a aeth i’r llwyfan yn arddull Strictly Come Dancing!

Yn ystod yr ymarferion y prynhawn dydd Gwener hwnnw, roeddem wedi cael blas ar yr hyn y byddai’r gynulleidfa’n ei glywed pan fyddai Only Boys Aloud yn cyfuno eu lleisiau ac roedd y noson wedi llwyddo i fodloni’r disgwyliadau hynny ac yn wir, i ragori arnynt. Dro ar ôl tro, gwnaeth y côr ysbrydoledig yma sydd â lleisiau gwirioneddol fedrus ganu o’r galon gan dderbyn canmoliaeth fawr gan y gynulleidfa ac yn wir gan Baubles & Warbles. Pleser o’r mwyaf i ni oedd cael rhannu’r llwyfan gyda phob un ohonynt!

Gwnaethom ni groesawu’r gynulleidfa’n ôl ar gyfer ail ran y cyngerdd gyda fersiwn wefreiddiol o ‘Bohemian Rhapsody’ a gyfansoddwyd gan yr enwog Freddie Mercury cyn mynd ymlaen i annog y gynulleidfa i gymryd rhan wrth i ni berfformio ychydig o ganeuon cyfarwydd i’r gwrandawyr. Gwnaeth Baubles & Warbles ddod ag ail hanner ein perfformiad i ben gydag addasiad o ‘Hey Jude’ – sydd bellach i gael ei alw’n ‘Hey Rhydian!’ Dyma oedd cynulleidfa wych, fel bob amser yng Ngogledd Cymru!’


Clwb Pêl-droed Caerwys yn Codi Bron i £900 dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd at NWCA

posterClwb Pêl-droed Caerwys yn Codi Bron i £900 dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd at NWCA
Gwnaeth y cymeriadau gwydn a dewr sy’n dod at ei gilydd bob Dydd San Steffan ym mhob tywydd, i chwarae Gêm Bêl-droed Elusennol yng Nghaerwysg yn gwisgo gwisg ffansi, ragori ar eu cyflawniadau blaenorol eleni a thros yr Ŵyl trwy godi bron i £1,800 a chafodd hanner o’r swm hwn ei roi’n rhodd i Apêl Ganser Gogledd Cymru.

Gwnaeth digwyddiadau eraill fel Helfa Drysor gyda Thaith Gerdded i Gŵn, Heriau Pŵl, Noson Gwis ac Ocsiwn Addewidion oll ategu at y cyfraniad gwych y bydd y grŵp hwn o bobl leol yn ei wneud at ein Helusen ni ac at Sant Cyndeyrn bob blwyddyn.

Hoffem ni ddangos y gwerthfawrogiad mwyaf i Arwel Davies ac i’w dîm sy’n gweithio’n ddiflino cyn cyfnod y Nadolig, yn ystod yr ŵyl ac ar ei hôl er mwyn sicrhau bod y digwyddiad hwn yn llwyddiant bob blwyddyn gan godi arian hollbwysig ar gyfer yr elusennau lleol a theilwng hyn.

Diolch yn fawr i bob un ohonoch!


Digwyddiad Codi Arian trwy Feicio am Ddiwrnod Cyfan i Redwraig Marathon

Gwnaeth Holly Hulson benderfynu mynd ar gefn beic er mwyn cychwyn ei hymdrechion Codi Arian trwy Farathon. Gwnaeth Holly, sy’n faethegydd ac sy’n ymddiddori mewn ffitrwydd osod cwpl o feiciau troelli yng nghyntedd Sainsburys yn Y Rhyl ddydd Sadwrn 2 Chwefror a bu ar gefn beic yn ddi-stop o 9am tan 5pm er mwyn gwella ei chyfanswm codi arian.

Gyda chymorth ffrindiau, perthnasau ac ar un adeg, ci anwes y teulu ar adegau penodol o’r dydd… diolch i haelioni pobl leol a oedd yn ymweld â Sainsburys ar gyfer eu nwyddau dydd Sadwrn, gwnaeth Holly lwyddo i godi dros £776.00!

Diolch yn fawr i’r aelodau hynny o’r cyhoedd a roddodd ac i’r staff a’r rheolwyr yn Sainsburys Y Rhyl a wnaeth y digwyddiad codi arian hwn yn bosibl. Hefyd i ‘Saints of Meliden’ a ddarparodd y ddau feic – da iawn a diolch i bawb!

Mae’n rhaid i Holly droi ei sylw erbyn hyn at hyfforddi ar gyfer y Marathon ar ôl bod ar gefn beic yn ddi-stop am wyth awr.

posterposter