Dyddiadur Canser Helen Job

Mae'r dyddiadur hwn yn hanes rhyfeddol o daith Helen wrth iddi gael diagnosis a thriniaeth at ganser y fron, wedi'i ysgrifennu gan ei phartner Dr Rajan Madok. Mae'n cofnodi digwyddiadau ei bywyd o ddydd i ddydd gyda nodiadau personol, lluniau a barddoniaeth. Mae'n fodd gwych o groniclo amseroedd da a drwg wrth iddi wella o'i salwch.

Mae Helen a Rajan wedi bod yn ddigon caredig i roi'r dyddiadur yn rhodd ar ffurf e-lyfr i Apêl Canser Gogledd Cymru yn y gobaith y bydd yn fuddiol i’r sawl sydd ar yr un llwybr.
Mae croeso i chi ei ddarllen a'i lawrlwytho, ac, am hyn, gobeithiwn y byddwch chi'n rhoi rhodd.

Diolch yn fawr

Llawrlwytho Dyddiadur Canser Helen Job (pdf)